Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gystal

gystal

Er mai edrych ymlaen at arddangos trin gwallt yr oedd yr aelodau, cawsom gystal gwledd a llond gwlad o ddifyrrwch.

'Dos i'w lys', meddai Rhisiart Phylip am Siôn Salbri o Lyweni ac yno, meddai ymhellach, y ceir 'gweled unben' sydd gystal â 'gweled nerth ein gwlad'.

Gallai neidio o'i gar yn Washington gan ysgwyd dwylo a chusanu babis gystal ag unrhyw arlywydd Americanaidd.

Fe wyddai gystal â neb am wleidyddiaeth, ac y byddai Genoa o bryd i'w gilydd yn cyflawni rhyw gamwri yn y rhyfel masnach â Fenis, ac y byddai'r elynddinas honno yn ei thro yn gwasgu ar ei chynghreiriaid er mwyn gwneud pethau'n anodd i'w ddinas enedigol yntau.

"Mae gan bobol Pen'sarwaen," medda fi, "gystal hawl â neb i wybod faint o ffordd sydd yna i Lundan." Doedd ganddo fo ddim atebiad i hynny, ond mi lloriodd fi hefo peth arall.

Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud ar y cyd â Sbaen; o ganlyniad, mae safon gwyliau yng Nghuba gystal ag unrhyw le arall yn y byd.

Williams Parry, fe gredaf fod gennym gerddi unigol sydd gystal yn ol eu math a dim oll a sgrifennodd neb arall yn unman.

Petai olwyr y tîm agos gystal byddent yn dîm i godi ofn ar y gorau.

Un gwlad fydd yn cyrraedd y pedwar ola ond gyda thywydd St Andrews mor gyfnewidiol mae gan dîm Cymru - Ian Woosnan, Phil Price a David Park - gystal gobaith â neb.

Gyrrwr da, ond diolch bod y brakes gystal onid gwell nag ef.

Cyfarfod dirwest oedd o, ond 'roedd o gystal â theledu i ni.

Mae dechra Ionawr fel hyn gystal amser â'r un i mi ddwysfyfyrio dros fy ngwendida yn hyn o beth; achos rydwi'n dal i wegian dan bwysau'r Roses yna fu'n tyfu arna i dros y Dolig.

Bu ei chymeriad hi a'i gwr yn fodd i'r Archentwyr gael opera sebon sydd gystal, os nad yn fwy dramatig, na Dallas.

Ond efallai y bydd rywun gystal â fy nghywiro os rwyn anghywir.

Maen rhaid i rywun ofyn - a oedd y Beatles gystal â hynny? meddai rhyw Kathryn Knight yn y Daily Express yr wythnos diwethaf gan deimlon dipyn o hogan, maen debyg, wrth ysgwyddor cyfrifoldeb o ofyn y cwestiwn mawr hwnnw.

Ma'r giat yna wdi 'i gnwud i'w chau yn 'gystal a'i hagor." Ac ateb sydyn Robin, fel ergyd o wn.

Efallai ei fod o'n iawn i chwaraewyr rygbi blewog ruthro ar ei hyd a'i led ond doedd o ddim yn gweddu gystal ar gyfer y rhai hynny sy'n cicio yn hytrach na thaflu pêl at ei gilydd.

Fe wyddai Iolo Morganwg, ac yntau'n undodwr ac yn ei dro yn ddiweddarach yn llywydd gweithgareddau'r enwad, gystal â neb am y prinder hwn.

Ie, dyna Siân þ ac yna'n ein bwydo a'n hymgeleddu gystal â neb.

Diolch byth nad oedd Newcastle gystal yn yr ail hanner ag yr oedden nhw yn yr hanner cynta.

braidd yn negyddol yw'r newidiadau yn y pac gan nad yw yw ricky evans gystal a mike griffiths ond y mae o'n fwy effeithiol yn y sgarmesi.

Os nad oedd Eingl-Gymro'n ddigon ffodus i gael y Gymraeg yn ail iaith iddo pan oedd yn ddigon ifanc ac i gael byw mewn ardal wirioneddol Gymraeg, 'ddaw o byth yn gystal llenor yn yr iaith honno ag y gallasai fod yn Saesneg.

Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.

Nid oedd Ap Vychan o blaid cael offeryn chwaith ac ar ôl pasio'r penderfyniad i gael un, ei sylw wrth y gynulleidfa oedd, "Hwyrach y byddai gystal ichwi fynd ymlaen i brynu mwnci!" Ond er gwaethaf pryderon y beirniaid, dal i fynd o nerth i nerth yr oedd y canu, gyda'r côr yn cipio'r gwobrau yn yr eisteddfodau.

Fel y gwyddom ni yng Nghymru gystal â neb.

Mae o gystal â ffisig, medden nhw, ond fe all fod yn wermod hefyd.

Ond, er gwell neu er gwaeth, ychydig iawn o dosturi a geir ym myd natur ac fe ŵyr y fam hynny gystal â neb; ymhen ychydig ddyddiau bydd yn chwalu'r tylwyth gan gario'r lefrod bychain i walau eraill yma ac acw, fel y bydd cath yn cario'i hepil yn ei cheg.