"MAE'N senario drist ac erchyll ac mae'r digalondid yn gallu arwain at chwilio am gysur mewn potel neu bot gliw.
Ac un o'r pethau sydd yn fforddio mwyaf o gysur i mi y funud hon ydyw, ddarfod i mi fy hun gario allan drefniadau claddedigaeth fy hen feistr er boddhad pawb, heb ymgynghori â neb ond Dafydd Dafis.
Brathodd ei gwefus a chrychodd ei thalcen mewn gofid ac nid oedd atgoffa'i hun bod ei mam wedi aros yn y Ty Mawr am fwy na thair wythnos cyn hyn, yn fawr o gysur.
(g) Mae'n Duw ni yn ddigon mawr i ddelio â'n camgymeriadau ni mewn modd fydd yn ogoniant i'w enw Ef, ac yn gysur i ni.
Gwyddai Gwyn nad oedd hithau'n gwybod fawr am y sefyllfa ond 'roedd clywed ffasiwn eiriau yn gysur.
Faint o gysur i'r rhain fyddai gwybod bod cynulleidfa fechan yng Nghymru yn gwybod am eu tynged, ac efallai'n cydymdeimlo?
Ond mae yna gysur bob amser i'r Cristion sy'n teimlo ei fod o'n heneiddio.
Pawb yn ddistaw, rŵan.' Wrth edrych dros eu hysgwyddau gallent weld coed y winllan yn cyrraedd bron atynt ac roedd yn gysur gwybod y gallent ddiflannu yn bur sydyn i dywyllwch y coed pe byddai angen.
Byddain fagddu ar rywun o droi at Tywyll Heno am gysur ar awr go ddyrys yn ei fywyd.
Bydd atgofion yn fy llethu weithiau, ond maent yn gysur hefyd.
Yn wir, yr oedd gyda nifer ohonon ni luniau yn ein meddyliau o dreulio penwythnos mewn rhyw hen hongliad o adeilad oer a gwag, di-gysur a diarffordd.
Cysgai hwnnw yr un mor dawel â'i nain ond ni chynigiai llonyddwch trwm y naill na'r llall rithyn o gysur iddi.
'Roedd Nerys yn beio ei hun am y ddamwain a throdd at y botel am gysur.
Mewn dinas sy'n llawn trais a pherygl, yr unig ddihangfa yw diod a chyffuriau a'r gobaith am gysur cyfeillgarwch neu gariad.
Rhwng gwynt, glaw a thirwedd bu Carnoustie yn drech na goreuon byd ar unig gysur a gafodd Tiger Woods yno oedd cusan Yvonne Robb, dawnswraig benglin o Gaeredin.
Ond cymerwch gysur, canys pe buasai'r cwrs hwn yn agored ichi buasech felly yn cael eich amddifadu o ddarllen llenyddiaeth ddychymyg wychaf y byd disgrifiadau estate agents o'r ffermydd sydd ganddynt i'w gwerthu.
Yn y nos gallaf glywed y morwyr yn canu yn eu cychod a chaf gysur wrth ddychmygu mai canu'r Hen Deulu rwy'n ei glywed.
Ond yr un oedd cadw dyn â chadw ieir i'w nain, gofalu am ei fwyd a'i gysur a hynny'n ei iawn bryd.
Yr oedd yn gysur mawr i rywun fy oed glywed mai merched 48 a 54 oed a ddwewiswyd yn rhai mwyaf steilish y byd gan y cylchgrawn Vogue.
At bwy y trodd o am gysur wrth ddianc o'i gartre gwag?
Yr oedd yn gysur mawr iddo wybod fod y plant yn gwneud cyfraniad pwysig i gymdeithas mewn swyddi cyfrifol.
Er inni gael ein creu, yng ngeiriau'r Salmydd, 'ychydig is na'r angylion', er inni gael ein cynysgaeddu â meddwl rhyfeddol a doniau nodedig, pobl ydym o gig a gwaed, llestri llawn craciau, yn dyheu beunydd am angor, am gysur a sicrwydd.
Mi fentra i ddeud wrthat ti na chaiff 'nacw 'r un gronyn o gysur yn y nefoedd os na fydd yno vacuum-cleaner a dystar at 'i llaw hi.
Mae gwybod hynny'n gysur mewn dyddiau pan fo gwaith mor brin." "Mi wn i hynny, ac yr ydw i'n ddiolchgar am gynnig mor hael.
`Cymer gysur ei fod e'n cywilyddio', oedd ymateb y dyn camera, cyn dychwelyd i'r car a thynnu'r lluniau damni%ol yn ddirgel drwy'r ffenest'.
(Gweddi a gyhoeddwyd gan Ganolfan Sant Samson, Efrog) Hyn, gan obeithio y bydd y weddi o gysur i'r rhai sy'n hŷn ac yn gymorth i warchod rhai iau rhag hunanoldeb.
Gwelais gario cenedlaethau o blant a llawer o gysur a helynt hefyd.
Cywilyddiaf o feddwl am ein cwestiwn iddo: "Beth sydd gyda ti inni?" Ond câf fesur o gysur wrth ddarllen mai dyma gwestiwn John Gwilym Jones i'w dad yntau hefyd.
Yn wyneb cyni o'r fath, dichon mai unig gysur llawer un oedd gweinidogaeth yr Eglwys.