Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gysylltir

gysylltir

Pwnc llosg arall a gafodd sylw manwl ar y rhaglen hon oedd lefel syfrdanol amddifadedd mewn rhai ardaloedd gwledig a phroblem camddefnyddio alcohol, cyffuriau a sylweddau - pynciau a gysylltir yn amlach na pheidio ag ardaloedd trefol.

Faint yw ein gofal am harddwch ein tirwedd ac yn dilyn rhesymeg Rio, y ddiwyllianau a thraddodiadau a gysylltir a'r un tiroedd?

Yr oeddent i gyd yn Brotestaniaid eiddgar ac yn bybyr eu hymlyniad wrth y math diwinyddiaeth a gysylltir ag enwau Zwingli a Bullinger, diwygwyr Zurich, a John Calfin yn Genefa.

Ac fel y diwygiwyd fersiwn Olivetan o dro i dro gan Calfin a Beza, fe rymuswyd y pwyslais hwn ar gadw union eiriad yr Ysgrythurau gwreiddiol nes dod yn un o nodweddion amlycaf y fersiynau a gysylltir â Genefa

Hon yw'r goeden a gysylltir yn draddodiadol gyda gwrachod.

Yr hyn a gysylltir yn fwyaf arbennig â Phencader yw, nid gwrthrych, ond person, - yr hen ŵr, pwy bynnag oedd hwnnw!

Amcangyfrifir mai'r diwydiant Technoleg Wybodaeth fydd defnyddiwr trymaf ynni erbyn troad y ganrif, gan oddiweddyd y diwydiannau traddodiadol drwm a gysylltir yn arferol â defnydd uchel ar ynni.

Danfonwyd milwyr i gymoedd glofaol Deheudir Cymru i gadw trefn a chreu ofn - penderfyniad gormesol a gysylltir yn arbennig a Winston Churchill.

Yn ôl yr Athro Patrick Ford, 'y mae'r dystiolaeth gynharaf am Arthur yn ei osod yn ddiogel ymhlith ffigurau a gysylltir yn bendant gennym â thraddodiad mytholegol a etifeddwyd o'r cyfnod Celtaidd.

Fe gysylltir ffilamentau tagell Deufalfiaid megis, y Gragen Las, gan badiau neu frwsus silia sy'n cydgloi.

ii) Os yw damwain yn digwydd i berson arall, naill ai ar eiddo'r Gymdeithas neu yn unrhyw le arall o ganlyniad i'r arferion gwaith a gysylltir â'r busnes, yna dylai staff fod yn barod i gynnig help a chymorth cyntaf.