Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gysylltu

gysylltu

Cais sydd gen i ar i bob cwmni neu fusnes gysylltu a mi yn Sain fel y gallwn ddangos ffrynt unedig gref yn hyn o beth.

Mae'r gair a luniodd yn bwysig, oherwydd ei bod yn rhaid i'r gair sydd gen i i'w gynnig gael ei gysylltu ag ef.

O blaid y gred hon y mae'r ffaith nad yw ach Arthur yn digwydd yn unrhyw gasgliad cynnar o achau (er bod rhai testunau diweddar yn ei gysylltu ag ach frenhinol Dyfnaint).

Byddwch cystal â manteisio ar gyfleusterau'r We i gysylltu â ni i ymateb i erthyglau neu i sgwennu erthyglau newydd.

Rydym yn cyd-gysylltu'r ymgyrch yng Nghymru, a byddwn yn darparu enghreifftiau o'r modd y bydd yr argymhellion yn effeithio ar gadwraeth, a manylion ar sut y medrwch chi gynorthwyo yn yr ymgyrch.

Os ydych chi am fod yn rhan o'r ymgyrch gyffrous hon yng Nghaerfyrddin yna fe ddylech gysylltu â Sioned Elin ar 804068 neu 384378.

Gallwch gysylltu a Nia yn yr Archif Adran Gerdd, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.

Bydd gollwng cardiau, yn enwedig rhai duon, yn ystod gêm yn anlwcus iawn ac wrth gwrs mae'n draddodiad i gysylltu cardiau duon, yn enwedig rhawiau, gyda

Dilynwch y cysylltiadau ar y dudalen hon i ddarganfod mwy am y ffordd mae'r BBC yn cael ei redeg yng Nghymru, a sut i gysylltu a ni.

Os ydyw'n ymddangos yn wahanol yn Helyntion Bywyd Hen Deiliwr mae hyn oherwydd ei fod wedi'i gyflwyno trwy gyfrwng deunydd sydd heb ei gysylltu ag ef o safbwynt adeiledd.

* Drwy gysylltu â swyddfa mewn-swydd eich sefydliad addysg uwch lleol.

Perthynai'r ddwy, yn eu ffyrdd gwahanol, i fudiad llenyddol pur boblogaidd yn Ffrainc tua dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg: mudiad a welai ar y naill law ymgais i gysylltu'r chwedl Arthuraidd (cyfraniad mwyaf Cymru i ddychymyg Ewrop, o bosibl) â chyfnod y Testament Newydd a sefydlu'r Greal Sanctaidd yn un o brif themâu llên Ffrainc, a mudiad a oedd yn dyst ar y llaw arall i symud pendant oddi wrth yr hen arfer Ffrengig o gyfansoddi naratif ar fesur ac odl i lunio stori%au rhyddiaith.

ond cofiwch, os ydych chi mewn unrhyw berygl fe fydd rhaid ichi gysylltu â fi ar unwaith.

Rhoes gyfle iddo yn awr i gysylltu - neu, efallai, i ailgysylltu - â William Salesbury, gŵr a fuasai ar dân ers blynyddoedd am weld cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi i'r Gymraeg.

Peidiwch â bod yn swil i gysylltu.

Cynigiwyd i'r Ysgrifennydd gysylltu a hwy yngl^yn a'r swydd.

Yr wyf yn amau nad oedd gan ein gwron fawr o amynedd chwaith at ei gyfoeswyr ymhlith y beirdd yr oedd cynffon y weledigaeth hon yn chwipio'u dychymyg, sef y rhai megis Saunders Lewis a Gwenallt a fynnai gysylltu'r Gymru oedd ohoni yn y tridegau gyda rhyw Gymru reiol ufudd-Gristionogol mewn gorffennol di-ffaith.

Wedi llawer o ddiolchiadau ar ôl i mi ddweud sut i gysylltu ag o, a minnau erbyn hyn yn llawn effro, rhoddais Y ffôn i lawr.

'Meic, rwy eisiau iti fy helpu i gysylltu â'r Serosiaid.

Mae'n symbol o fywyd tragwyddol am ei bod yn goeden sy'n byw am ganrifoedd gan gysylltu'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Yn ei swyddfa, mae yna gyfrifiadur sydd wedi ei gysylltu â rhwydwaith gwybodaeth rhyngwladol o'r enw FIND.

Cofnod Cyrhaeddiad Dylai pob un o'r aseiniadau hyn gysylltu ag un neu fwy o'ch mannau Cofnod Cyrhaeddiad.

Ac eto, o gofio ymateb trigolion un pentref yn ddiweddar, mae'n ymddangos fod rhai pobl o hyd yn rhyw led-gysylltu'r ysgub â galluoedd goruwchnaturiol.

ond i gael dau beiriant i gysylltu a'u gilydd ar hyd pellter o wifrau telegraff, yr oedd yn rhaid i olwynion y peiriant derbyn fod mewn cytgord union ag olwyn y peiriant y pen arall.

Wedi'i chynhyrchu ar gyfer BBC Radio 4 gan BBC Cymru Bangor, llwyddodd y rhaglen ddogfen hon i gysylltu meysydd adloniant ac addysgol yn effeithiol i gynhyrchu cynhyrchiad hyddysg ac ysgogol.

Bu'n hawdd yn wastad i feirniaid gysylltu cenedlaetholdeb Cymreig ag unrhyw fath o genedlaetholdeb a all ddigwydd bod yn niweidiol: yn nes ymlaen, disodlwyd arf cenedlaetholdeb Gwyddelig gan arf Natsiaeth.

Gyda thrydan, bydd y cyflenwad yn gyrru gwefr cyson i'r batri i'w gadw'n iachus.Dylid prynu batri defnydd trwm ar gyfer cwch neu garafan, a gofalu cael clampiau modern i'w gysylltu yn hytrach na'r hen glipiau crocodil, sy'n gallu sbar- cio.

I greu dyfodol real i'r iaith Gymraeg rhaid wrth strategaeth draws-bynciol er cyd-gysylltu mentrau polisi mewn meysydd amrywiol.

Doedd `cymhleth' ddim yn ansoddair yr oeddwn i wedi'i gysylltu â newyn erioed.

Ceir yr argraff fod yr adeilad hwn i'w gysylltu â hamdden a phleser.

'Roedd e'n hoff o gysylltu ei wersi arlunio â bywyd y wlad o amgylch.

P'run bynnag, dal i swnian ar y cynghorwyr fu'n rhaid i ni, a thybiaf ein bod wedi gweld neu gysylltu â phob cynghorydd o Landudno i Borthmadog ac i lawr ­ Ben Uyn, ar wahân i ryw ddau neu dri.

Trwy gyd-gysylltu a Chyngor Henoed Gwynedd a'r Uned Hybu Iechyd llwyddwyd gyda'r cais wnaed i'r Swyddfa Gymreig i sefydlu swydd hybu iechyd yr henoed.

Yr oedd gwir angen symud ymlaen a'r cynllun ac argymhellodd fod y Cyngor yn ymgymryd â'r gost o gysylltu'r holl dai a bod Cyfreithiwr y Cyngor yn edrych i mewn i gyfrifoldeb perchenogion y tai a werthwyd gan y Cyngor i gyfarfod â'r gost mewn perthynas i'w heiddo hwy.

Dylech gyflwyno'r allwedd ar ffurf poster a dylech gysylltu'r gwaith â Rhaglen Astudio a Thargedau Cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Ar hyd yr oesau, mae ei bywyd wedi ei gysylltu â hud, lledrith a rhyfeddod.

Mae'r cylchgrawn hwn wedi'i gysylltu â mudiad sydd, yn gyffredinol, â chysylltiad â phobl ifainc.

Ei amcan yw hybu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ei holl agweddau a chyd-gysylltu buddiannau awduron, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd, ac hefyd i gynorthwyo a chefnogi awduron.

Wedii chynhyrchu ar gyfer BBC Radio 4 gan BBC Cymru Bangor, llwyddodd y rhaglen ddogfen hon i gysylltu meysydd adloniant ac addysgol yn effeithiol i gynhyrchu cynhyrchiad hyddysg ac ysgogol.

Galw sylweddol o du siaradwyr Cymraeg am ragor o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, yn enwedig wrth siopa neu wrth gysylltu â gwasanaethau cyhoeddus a'r cyfleustodau sydd wedi eu preifateiddio.

Ochr yn ochr â'r cyrchnodau arholiad, sicrheir fod rhaglen waith pob disgybl yn amlygu: Ehangder - drwy gyflwyno'r profiad ieithyddol/dwyieithog yng nghyd-destun pob un o'r naw maes profiad (mathemategol, gwyddonol, ayb.) ac yn cymhwyso sgiliau'r cwrs addysg i fywyd a gwaith cymunedol; Perthnasedd - drwy gysylltu'r rhaglen waith â'r angen i addasu'r dysgu a'r addysgu i ddiddordeb a gyrfa bersonol y disgybl ee.

Os nad ydych chi'n awyddus i gysylltu â ni drwy'r post neu dros y ffôn mae gennych opsiwn arall erbyn hyn, sef defnydio'r E-Bost a'r We.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD A AWGRYMIR AR YR AMGYLCHEDD: yn ystod y cylch tair blynedd nesaf, bydd yr Uned yn cyfrannu at gysylltu â'r sector anstatudol i'w hysbysu ynglŷn â'r posibiliadau o ran gwella'r amgylchedd drwy adennill tir diffaith, yn gwneud mwy o waith adennill tir at ddiben gwella'r amgylchedd ac yn llunio adroddiad blynyddol, yn amlinellu'r nod, yr amcanion a'r hyn a gyflawnwyd o ran yr amgylchedd, ac yn cynnwys dadansoddiad o'r gwariant.

Y rheswm syml am hyn yw gallu carbon i ffurfio cadwyni hirion o folecylau cydiol trwy ymgyfuno, a hefyd trwy gysylltu nifer fawr o wahanol grwpiau ag unrhyw folecwl.

Wrth bwyso ar y boncyff gallwch gysylltu â'r ysbryd yma.

Er bod Llyfr yr Ancr yn dal cysylltiad agos â Llanddewi Brefi, nid oes gennym dystiolaeth i gysylltu'r gŵr a'i hysgrifennodd neu a'i copi%odd, nac yn wir gynnwys y llyfr â'r coleg yn Llanddewi.

Ac yna dyma ddychwelyd i'r gwersyll, i noswylio, gan obeithio am well hwyl ar gysylltu â'r Cristnogion yn y bore.

Yn y diemwnt gwelwn fod pob atom wedi ei gysylltu a phedwar atom arall.

Mae'n rhaid cydnabod ar yr un pryd fod cyfleoedd sylweddol ar gael yn yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau cefnogaeth ariannol ac ymarferol drwy gysylltu'r Gymraeg â byd gwaith a datblygiadau cymunedol.

Ewch dros y llinell fantais trwy gysylltu a chyfeillion gydag un o gardiau ebost rygbi, BBC Cymru'r Byd.

Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch i sefydlu gŵp cysylltu yng Nghymru gallwch gysylltu â Swyddfa Cymdeithas yr Iaith, neu â Jim Killock.

Eglurodd swyddog o'r Rheilffyrdd Rhanbarthol nad ef oedd yn ymdrin â materion fel hyn ac iddo gael anawsterau i gysylltu â'r swyddog perthnasol.

Ar ôl dychwelyd i'r Almaen, ceisiais sgrifennu'r erthygl gytbwys a oedd gennyf mewn golwg, ond rywsut ni fedrwn gysylltu'r pethau cadarnhaol a wyddwn am yr Almaen, fy mamwlad, gyda'r hyn a oedd yn digwydd o'm cwmpas bob dydd.

Yn ail, gwna ymdrech dda i gysylltu'r drafodaeth ar Llwyd â'r gwaith ysgolheigaidd mewn meysydd eraill sy'n debygol o'n helpu i fantoli'n gywirach arbenigrwydd ei berson a'i gynnyrch.

Os ydych chi fel aelod o'r Gymdiethas Frenhinol er Gwarchod Adar yn teimlo'n gryf am yr argymhelliad hwn,rydym yn eich gwahodd i gysylltu â: 'Darnio'r CGN', Bryn Aderyn, The Bank, Y Drenewydd, Powys.

Ymhlith siaradwyr Cymraeg, mae hyder wrth ddefnyddio'r iaith ar ei uchaf gartref, wrth siopa, neu wrth gymdeithasu ond mae'n is wrth gysylltu â chyrff megis cynghorau lleol neu'r cyfleustodau sydd wedi eu preifateiddio.