Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gytun

gytun

Roedd pawb yn porthi'n gytun "Yes Champ" "No sweat Champ" "Champ, you would box his head off".

Angharad wedi dod, ac mae hi yn rhan o Cymdogion arbennig hefyd, ar draws yr Ynys, pawb bron yn 'nabod ei gilydd, anhygoel, a phawb yn gytun, a'r mor a'r mynydd...

Mae'r arbenigwyr yn gytun mai dyma'r gystadleuaeth orau yn hanes y Cwpan Byd, a hyd heddiw, dwi'n dal i gofio'r effaith gafodd y gystadleuaeth arna i.

Daeth swn llesmeiriol tonnau'n taro'r creigiau i'n clyw, brysiodd sgwadron o hwyaid heibio a glanio fel pe ar orchymyn arweinydd i nofio'n gytun.

Dyma pam yr aeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Ysgol y Parc, ger y Bala, i lansio'r peiriant newydd, ac roedd y criw a fu yno yn gytûn fod brwdfrydedd ac awydd y plant am ddefnyddiau Cymraeg ar y we yn galonogol y tu hwnt.

Yr ydym yn gytun bellach mai yn y dilyniant 'Sonedau y Nos' y ceir ganddo ei gyfraniad mwyaf nodedig.

Dewch at ddirwest, dewch bob oedran, dewch i weithio yn gytun.

Troi a siglo fel un, yn gytun ac yn wefr i gyd.

Ac roedd pawb yn gytun i ranbarth Caerfyrddin ein cyflwyno i drysor o le yng nghanolfan Pentre Ifan.

Y diwedd fu mabwysiadu barn gytun mai'r polisi i'w argymell ar Gymru, pa mor anodd bynnag fyddai hynny, oedd niwtraliaeth.

Rhagymadroddais yn ddigon talog gynnau drwy led awgrymu mai bardd eilradd ydoedd, a dyna rywsut y farn gytun mwyach, ac eto, mewn rhai o'r sonedau hyn (VI, VII, XVI, XXIV, XXXI, XLII, XLIII) y mae'n dweud rhywbeth o bwys mawr mewn llenyddiaeth Gymraeg ac yn ei ddweud yn gain synhwyrus ac yn fachog fyw.