Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gytuno

gytuno

mynnai Waldo goroni pryddest Dafydd Owen, ond ni fynnai'r ddau feirniad arall gytuno ag ef.

Nid wyf yn cofio'n iawn beth a ddywedwyd, ond rwy'n meddwl inni gytuno mai ymgais yw'r naill a'r llall i roi trefn ar amrywiaeth mawr o elfennau gwasgarog, a'i bod yn werth inni ddyfalbarhau.

Er y byddai'n bosibl, wedi i broject tair blynedd ddod i ben yn llwyddiannus, i'r Swyddfa Gymreig gytuno i ariannu project newydd yn yr un maes i'w gyflawni o fewn cyfnod penodol pellach, nid ystyrir fod profiad o gyflawni project blaenorol yn fwy manteisiol na phrofiad diweddar yn y dosbarth ac anarferol fyddai penodi swyddog project am ddau gyfnod yn olynol.

Wrth gwrs, yr oedd OM Edwards yn ysgrifennu gan edrych yn ôl dros ysgwyddau'r blynyddoedd, ond mae'n amlwg ei fod yn teimlo fod y gymdeithas wedi sylweddoli ei hamcanion, a gallwn gytuno ag ef i raddau, ond nid yn gyfan gwbl chwaith.

Ac yntau, bellach, wedi gwneud enw iddo'i hun yn Ewrop mae'n destun syndod iddo gytuno i ymweld o gwbl a thref mor ddiarffordd a'r Gaiman i ganu gyda chôr o amaturiaid.

"Popeth yn iawn,' meddai fy Nhad-yng-nghyfraith, "Mi â' i â chi i orsaf Euston.' A dyma gytuno ar hynny.

Roedd Elis Gruffudd ac yntau wedi hen gytuno ar hynny, beth bynnag arall a fyddai'n destun cynnen rhyngddynt.

Yn swyddfa'r stadiwm bu swyddogion Holland a Chyprus yn trafod am yn agos i awr cyn i Gyprus gytuno i chwarae drachefn.

Roedd ei gyfoeth lleisiol yn amlwg yr adeg honno hefyd - er nad oedd y beirniaid yn llwyr gytuno ar ei arbenigrwydd ar y pryd.

Gwnaed hyn drwy gytuno ar gyfradd gyfnewid sefydlog i bob aelod ac, er mwyn sicrhau'r gyfradd rhag ansefydlogrwydd tymhorol, galluogwyd y Gronfa i gynnig benthycion i bob aelod yn ôl ei eisiau.

'Roeddynt yn sylweddoli'r siom a fyddai hyn i'r Awdurdod, yn llwyr gytuno ynglŷn â'r angen, ond o'r farn mai trwy gydweithrediad rhwng yr holl Awdurdodau Addysg yng Nghymru dan nawdd Corff Cenedlaethol fel Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru y dylid symud ymlaen, yn hytrach nag unrhyw Awdurdod Addysg yn gweithredu ar ei ben ei hun.

Blackburn Rovers oedd y ffefrynnau i'w arwyddo, ar ôl i'r ddau glwb gytuno ar bris o £2,750,000 am y chwaraewr ugain oed o Lanelli.

Ar y pryd roedd y gohebwyr yn tueddu i gytuno.

Wrth gytuno ag ef, gosododd y Pwyllgor y ddadl hyd yn oed yn fwy cignoeth, gan apelio at ystyriaethau doethineb hirben ac o fuddioldeb yn ogystal â moesoldeb:

Wrth edrych yn ôl roedd y wasg o bosib' yn barotach na'r disgwyl i gytuno â'r dehongliad hwnnw.

Ddaru Ifan eriod gytuno a neb yn ddistaw, nac anghytuno a neb heb dwrw.

Gyda hyn ar fy nghalon, ac wedi trafod gyda Gwenan, fy ngwraig, dyma gytuno i fynd.

Ond wrth fynd drwy'r rhes negeseuon ar y peiriant ateb wedi dychwelyd i'm gwaith clywais lais Ffrengig Claudie Moyson yn fy atgoffa imi gytuno i ofalu am ‘gynrychiolaeth' o Lydaw fyddai'n dod i Gaerdydd i ddysgu popeth am deledu lleiafrifoedd.

Dylai ysgolion fod ag agweddau positif, dylent gytuno ar bolisi%au pynciau a gefnogir gan amcanion a nodau, ac fe ddylent weithredu trefniadau cwricwlaidd a threfniadol i gefnogi disgyblion ag AAA.

Of nai'r meddyg y byddai'n rhaid torri'r droed i ffwrdd gan mor enbyd oedd ei chyflwr, ond yr oedd Phil yn gyndyn iawn i gytuno â hynny.

Gobeithion am heddwch yng Ngogledd Iwerddon wedi i bleidiau o'r ddwy ochr gytuno ar gyfamod all arwain at ffyrfio cynulliad.

Mae prif glybiau Cymru'n cyfarfod a'r Undeb eto heno i gytuno ar amserlen gemau'r tymor nesa.

Mae angen iddyn nhw gytuno i benodi Ruddock yn hyffordwr tîm A Cymru er mwyn i'r cyflog ar telerau fod yn iawn.

Os am gytuno neu anghytuno a'n beirniaid anfonwch i ddweud.

Efallai y dywedwch chi na ellid hynny fyth, na cheid fyth ddigon o Gymry i gytuno ac i drefnu'r peth yn ymgyrch o bwys a grym.

Cerddi eraill: mynnai Waldo goroni pryddest Dafydd Owen, ond ni fynnai'r ddau feirniad arall gytuno ag ef.

Gofynnwyd i Dafydd Iwan, sydd nid yn unig yn un o gantorion ysgafn mwyaf blaenlalaw Cymru ond hefyd wedi bod yn flaenllaw yn y frwydr genedlaethol, ganu yn y cyngerdd yn y Bae ond ni allai dderbyn oherwydd iddo gytuno i ganu mewn noson Gymraeg yng Nghaerfyrddin.

Roedd yn siarad â chynulleidfa fodlon a deallus a pharod i gytuno, er bod ambell un, mae'n siwr, yn ystyried bod ymchwiliad pellach yn ddianghenraid, gan mor ddigwestiwn oedd y ffeithiau eisoes yn ymddangos.

Awdurdodwyd Swyddog Diogelwch y Cyngor sef y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd mewn ymgynghoriad â'r Trysorydd, a'r Prif Swyddog Technegol mewn perthynas ag adeiladau'r Cyngor ac mewn achosion eraill unrhyw Brif Swyddog perthnasol i gytuno ar wariant ar unrhyw waith a fydd yn angenrheidiol yn eu barn hwy ar ôl gwneud arolwg dan y cyfryw reoliadau, - ond yn amodol ar gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith priodol cyn cytuno ar unrhyw wariant neu waith sylweddol.

Hyd y gwyddom hwn fydd y tro cyntaf i aelod amlwg o'r Blaid Geidwadol i gytuno i siarad mewn cyfarfod a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

(b) roedd y Cyngor i gytuno i gynnwys cynnig am ganolfan gynghori ym Mlaenau Ffestiniog ar ei restr o prosiectau a gyflwynid i sylw'r Swyddfa Gymreig dan ba bynnag bennawd fyddai'n addas.

Wrth gytuno'n llwyr â hynny, fe ddywedwn innau y bydd y broblem hon yn un o'r pynciau pwysicaf a fydd yn wynebu Huw Jones wrth iddo gamu i'w swydd newydd.

MAE un peth y gall y mwyafrif llethol ohonom yng Nghymru gytuno arno, sef mai tonic i'r enaid oedd gweld y Toriaid yn cael y fath gosfa yn Etholiad Ewrop.

Un o'r pethau rhyfedd ynglyn ag ysgrifennu hanes yw y gall ysgolheigion, gwahanol iawn eu hargyhoeddiadau personol, gytuno ar fanylion, ond pan ddônt i'w cyfuno mewn panorama eang, daw gwahaniaethau sylfaenol i'r golwg.

Rhoi ei farn trwy ddangos yr ochr arall i'r geiniog, fel petai, a wna'r awdur ac nid oes rheidrwydd I'r darllenydd i gytuno ag ef o gwbl.

Erbyn hyn fe welwyd ffrwyth y brotest arwyddion ffyrdd wedi i'r Llywodraeth gytuno i osod arwyddion dwyieithog, Yn y gerdd hon nid gofyn 'paham yr anniddigrwydd' y mae'r bardd, ond edmygu gwydnwch y protestwyr yn hytrach.

Yn ystod y flwyddyn, cryfhawyd y gyfundrefn i adnabod anghenion at y dyfodol gan gytuno mai paneli Adran Gymraeg CBAC fyddai'r ffordd fwyaf effeithlon o wneud hyn.

Parhad ydi hon, debygwn i, o bregeth debyg rai blynyddoedd yn ôl gan Arglwydd y Bwrdd Iaith ein bod ni'r Cymry bellach wedi 'troi cornel'. Difyr oedd sylwi mor barod oedd eraill megis Prys Edwards i amenio hyn, gan gytuno fod protestio a 'ballu yn hen ffasiwn, ac mai'r cyfan oedd rhaid ei wneud bellach oedd gwenu'n glên a 'hyrwyddo'. Roedd dyddiau dod ben ben â'r Sefydliad drosodd.

Mae'n bosib 'mod i wedi lled gytuno.

Onibai eu bod yn awyddus i gydymffurfio o'u gwirfodd, ni ddisgwylid iddynt gytuno â'r un cynllun iaith statudol penodol iddyn nhw'n unigol.

Er nad oeddem yn rhy hapus o adael ein gwesteiwyr mor fuan â hyn, dyma gytuno â'i ddymuniad.

Nid yw hyn yn golygu nad yw'n bosibl i gemegydd Islamaidd gytuno â chasgliadau ffisegydd o Gristion.

Cynlluniwyd y daenlen hon i'ch cynorthwyo chi a'r ysgol i gytuno ar nodau cyffredin ar gyfer y lleoliad.