Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gywirach

gywirach

Ac yn wyneb yr hyn a ddywedwyd gynnau, mae angen esbonio pam yr oeddem ni, aelodau Adain Chwith y Blaid megis, yn anesmwyth am y polisi - neu'n gywirach, am y mynegiant arferol ar y polisi: teimlo'r oeddem fod y mynegiant hwnnw'n gwneud cam â hanfod y polisi.

A'r ferch yn byw mewn pentref pell fe sgrifennai John ati bob pythefnos, neu'n gywirach byddai'n cael gan rywun arall wneuthur felly drosto, gan na fedrai na sgrifennu na darllen.

Ein ffugenw oedd "Flotsam and Jetsom" ar ôl deuawd poblogaidd ar y pryd, ond byddai ystyr lythrennol y geiriau yn gywirach disgrifiad ohonom.

Bws Caerdydd - For a career in the fast lane... medda hi - pan fyddai for a career in the bus lane wedi bod yn gywirach.

Mae gwyddonwyr eraill o Rwsia wedi dangos fod dynion yn gweithio'n well ac yn gywirach wedi cael ginseng am ei fod yn symbylu'r gyfundrefn nerfol.

Mae peiriant yn gywirach o lawer na llaw.

Yn ail, gwna ymdrech dda i gysylltu'r drafodaeth ar Llwyd â'r gwaith ysgolheigaidd mewn meysydd eraill sy'n debygol o'n helpu i fantoli'n gywirach arbenigrwydd ei berson a'i gynnyrch.

Bellach nid yw'r mudiad yn rhoddi cymaint pwys ar y gweithgaredd pwysig yma, neu i fod yn gywirach, y mae'r awenau wedi symud o'n dwylo.