Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hiraeth

hiraeth

Estynnwn ein cydymdeimlad i'r holl deuluoedd hyn yn eu colled a'u hiraeth.

Mewn telyneg megis 'Cysgodion yr Hwyr' y mae yntau, yng nghanol erchyllterau rhyfel, yn mynegi ei hiraeth dwfn am heddwch a thangnefedd, a gwynfyd natur ardal ei faboed.

Cydymdeimlwn a hwynt yn eu hiraeth.

Cyfansoddodd Thomas Jones gerdd goffa i'r 'Telynor Ieuanc o Langwm.' Y mae mwy nag un o'i gerddi yn mynegi yn ogystal, yn dyner a diffuant iawn, ei hiraeth am Arthur.

Doedd dim i dynnu hiraeth arni yma - doedd dim yma i godi atgofion a fyddai'n rhwygo'i chalon.

Yr oedd taid a nain arfben eu digon yn cael cwmni'r ddwy, ac mae hiraeth ar eu hol nawr y maent wedi dychwelyd adref.

A dyna'r tro cyntaf i gymysgedd o deimladau fynd ar draws ei gilydd þ siom a hiraeth, ac yn fwy na'r cwbwl tosturi am fod breuddwyd rhywun arall wedi'i ddinistrio þ er mai dim ond berfa oedd o.

Anfonwn ein cofion at ei wraig Gill a gweddill y teulu yn eu galar a'u hiraeth.

Mae'n rhaid cyfaddef fy mod wedi cael pwl o hiraeth i weld teulu a ffrindiau yn ddiweddar, felly doedd dim amdani ond pacio bag ac estyn am y pasport.

Ni phoenid ef gan hiraeth nac ychwaith gan unrhyw ymdeimlad mai yng Nghymru yr oedd ei le.

Mynegodd ef ei argyhoeddiad, a'i ddilyn gan bob beirniad o bwys, mai'r bardd yw'r un â'r gallu ganddo i feddwl yn drosiadol, i glymu dau argraff efo'i gilydd yn undod clos - i weld henaint yn ddeilen grin ar drugaredd gwynt, i weld bedwen yn lleian, i glywed cân ceiliog yn y pellter yn dristwch mwyn hiraeth, i deimlo yn hen gapel gwag, i droi Angau yn weinidog yn dod i'w gyhoeddiad.

O, mae hiraeth arnaf!

Pan grybwyllid enw Miss Lloyd mewn sgwrs dechreuai ei gwefus isaf grynu, ac rwy'n amau ai hiraeth am ei ffrind ddiweddar oedd y rheswm.

Gyda'r newyn yn y gell gosb daeth yr hiraeth am sigaret; hiraeth am glywed ei haroglau, am osod y tân wrth ei blaen melyn, gollwng y mwg glas allan rhwng ei wefusau a'i weled yn ymdorchi i'r awyr.

Erys y côf amdano yn felys ar waethaf yr hiraeth.

Bu'n gwlwm rhwng Mam a minnau - drwy'n hiraeth.

Cerdd hynod sydd yn mynd â ni yn ôl yn hiraethus mewn atgof plentyn at gymdeithas glòs y cymoedd glofaol, y cyd-chware, y cyd-addoli a'r cyd-ddioddef; ond mae ing yn yr hiraeth am fod y bardd yn edrych yn ôl ar fyd dewr a dedwydd o safbwynt cymdeithas wedi ei chwalu gan ddiweithdra.

Pan ddaeth aelodaur Clwb Hiraeth - dynar enw maen nhw'n ei ddefnyddio yn Siapan - i gyfarfod yng nghastell Caerdydd rai blynyddoedd yn ôl - fe ddwedodd llywydd y clwb mai y rheswm fod cynifer o gwmniau Siapaneaidd wedi ymsefydlu yng Nghymru oedd y tebygrwydd rhwng yr Haiku ar Englyn, meddai Aled.

Ond peidiwch â'i goelio'n llythrennol, mwy nag y coeliech fardd yn dagreuo hiraeth am ei gariad dan yr ywen.

O, mor fawr fy hiraeth!

Cwynfan Serb yng ngwres ei glefyd, Pell y wawr a'r nos yn hir, Hiraeth bron am wynfyd mebyd Hwnt i gaerau Monastir.

Pryddest yn y traddodiad cofiannol yw hon eto, ond daeth Parry-Williams ag elfen bersonol i mewn iddi, oherwydd wrth ganu am hiraeth Gerallt am Gymru o Baris yr oedd yn canu ei hiraeth ei hun.

Daw teimladau dyfnaf dyn i'r wyneb yn Methu lle disgrifia'r bardd y rhwystredigaeth o deimlo'n fethiant llwyr oherwydd diffyg egni ac awydd ynghlwm â hiraeth am y gorffennol.

Yn ei awdl clywir eto hiraeth yr alltud ystrydebol am yr aelwyd a'i moldiodd.

Daw rhyw hiraeth anesboniadwy drosof weithiau wrth geisio amgyffred treigl y canrifoedd: Fel ewyn ton a dyrr ar draethell unig, Fel can y gwynt lle nid oes glust a glyw, Mi wn eu bod yn galw'n ofer arnom - Hen bethau anghofiedig dynol ryw.

Ynteu am eu bod yn cludo, yn ol ac ymlaen trwy'r twneli, ryw hiraeth liniarol am bethau a phobl na all fyth fod, fe arfaethwyd, gyda'i gilydd yn yr un lle?

Wrth weld a chlywed y moduron yn rhuo heibio iddynt mor agos, daeth hiraeth ar y plant am fod yn ôl ar yr ynys, yng ngwynt y môr, gweld yr adar, a Llwyd a'r anifeiliaid eraill.

Bydd teuluoedd eraill a gollodd anwyliaid yn y Rhyfel yn gallu eu huniaethu eu hunain â hiraeth teulu Penyfed o golli eu mab hwythau.

Yn fy ngalar a'm hiraeth, gwyddwn pe bawn yn medru derbyn marw fy nyweddi heb deimlo'n anfodlon a heb chwerwi, y byddwn wedi datblygu'n ysbrydol.

Ei hiraeth am weld sylweddoli'r uno hwn ar raddfa fawr sy'n ysbrydoli ei benillion prydferth,

gymaint o hiraeth fel y blingodd y milgi a gwneud gwasgod o'r croen.

Gorffwysai Rageur a Royal wrth ei draed Gorweddai Rex yn crio'n ddigalon wrth y drws mewn hiraeth am Alphonse.

'Roedd hiraeth arno am yr hen ddyddiau, pan oedd gobaith i'r byd.

Bydd yn rhyfedd iawn os na chewch rywbeth yn yr agoriad: hiraeth melys rhyw salm; callineb bydol bachog rhyw ddihareb; ysblander gweledigaeth proffwyd neu ddifinydd; stori brydferth swynol neu bryd arall stori erwin frawychus; brathiad cleddyf neu foesegwr di- dderbyn-wyneb a yrr eich hunangyfianwder ar ffo; murmuron tawel a leinw eich enaid a hedd.

Dyma destun yr ydym yn edrych yn ôl dros ugain mlynedd ato, a hynny gyda gorfoledd yn ein henaid, a hiraeth dwfn am weld eto yn fuan gyffelyb amser i hwnnw.

Cofia fi at y Teulu i gyd, ac at dy dad; O mor fawr fy hiraeth am ei weld!

Yn y Gymraeg llwyddodd y Prifardd Aled Gwyn i ddwyn y gynghanedd i mewn i'r mesur pan gomisiynwyd ef i sgrifennu Haiku i gyfarch aelodau Clwb Hiraeth, clwb o brif-weithredwyr Cwmniau Siapaneaidd dreuliodd amser yng Nghymru.