Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hynafiaeth

hynafiaeth

Er bod dau o feirdd Arfon, sef Dafydd Ddu Eryri a Hywel o Eryri, wedi'u gwahodd i'r orsedd gyntaf, ni ddaethant ar ei chyfyl am eu bod yn amau honiadau Iolo Morganwg ynglŷn â hynafiaeth y mudiad.

Nid oes dim mursendod hynafiaeth yn ei iaith na'i arddull, ond mynegiant syml-goeth gŵr diwylliedig.

Mae'r enw Pendaran, Pen Darian efallai, Prif Amddiffynnwr, Dyfed ac iddo atsain awdurdod a hynafiaeth nas ceir yn Pwyll, Pendefig Dyfed, sydd, o'i gymharu ê'r llall, yn enw tawel a modern.

Gallai Eglwys Loegr wneud cynhaeaf bras o'i hynafiaeth, ac yn enwedig felly'r rhai a bleidiai egwyddorion Mudiad Rhydychen, gan fwrw sen ar yr enwadau Ymneilltuol fel rhyw chwyn crefyddol a dyfodd yn ddiweddar.

Fe hawliwyd mai mewn barddoniaeth Gymraeg y ceir y ddau gynharaf, a phe gellid bod yn sicr o hynafiaeth y testunau byddai'n hawdd credu hynny.

Gellir awgrymu nifer o resymau am y teyrngarwch rhanbarthol hwn, sef twf gweinyddiaeth a datblygiad sefydliadau sirol, cynnydd cyfoedth y bonedd gwledig a'u tuedd gynyddol i briodi aeresau lleol, eu diddordeb mewn hanes, hynafiaeth a chyfraith, a thwf trefi sirol yn ganolfannau cymdeithasol, diwylliannol a gweinyddol.