Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

iach

iach

Mae Cymdeithas Tai Clwyd Cyf yn cydnabod ac yn derbyn ei chyfrifoldeb fel cyflogwr i ddarparu Ogweithle ac amgylchedd gweithio diogel ac iach ar gyfer pawb a gyflogir ganddi.

Cadwch at y cyngor cyffredinol yn Newid eich arferion bwyta - Cynllun deg pwynt, gan ei fod yn darparu'r rheolau sylfaenol ar fwyta'n iach.

Gwnâi hyn ni'n fechgyn atebol ac iach ac roedd y fagwraeth weithgar a chaled a gawswn i, yn ddiamau, o gymorth mawr ar dreialon dygn fel hyn.

Yn ôl y cyngor a roddir i'r merched, dylid - ymarfer yn gyson - bwyta diet cytbwys wedi ei reoli'n ofalus - byw bywydau iach - cael cyrff heini

Prif nodwedd y diwinydd da yw ei allu i ddatgan bod Duw yn fwy nag unrhyw ddehongliad ohono: prif nodwedd y gwleidydd da yw ei allu i ddangos bod gwleidyddiaeth iach yn fwy nag unrhyw athroniaeth wleidyddol.

Tyf llawer ohonynt ar goed yn y trofannau, nid yn isel ar y goeden mewn tywyllwch llaith fel y dychmygwn, ond yn agos i'r brig mewn goleuni da ag awyr iach.

Yn y cyfamser þ criwch a byddwch iach.

Chwarddodd un o'r milwyr yn iach a gwaeddodd rywbeth mewn Almaeneg.

Agorodd y ffenest a phwyso ar y rhan isaf i lenwi ei hysgyfaint ag awyr iach a dotio ar lesni tyner yr awyr.

Hefyd, bydd bowliwr Swydd Derby, Dominic Cork, ddim yn chwarae i Loegr yn y Prawf Cyntaf oherwydd anaf i'r gefn, ond mae'n bosib y bydd y capten, Nasser Hussain, Michael Vaughan a Craig White yn ddigon iach i chware.

Bydd y Barbariaid yn cyhoeddi eu tîm yn ystod y dydd, ond ofnir na fydd un o sêr y Crysau Duon, Jonah Lomu, yn ddigon iach i chwarae.

Un sydd wedi dioddef o ganser y croen ydy Androw Bennet ac mae o'n dweud nad ydy lliw haul ddim yn iach.

'Bydd y gangen a gollodd y mwyaf o bwysau, o ran canran, yn ennill hamper o fwydydd iach, i ddathlu!

Doedd dim lliw yn ei hwyneb ac nid edrychai'n rhy iach.

Nid rhydd-ddeiliaid mohonom yn y byd ond tenantiaid a'n braint yw trosglwyddo'r stad yn iach i'r sawl a fydd yn ein dilyn yma.

Anodd meddwl am lun mwy pwrpasol ac iach i'w dangos ar y pryd.

Pa mor iach yw ein bywyd gwyllt?

Pob bendith a dyfodol iach a hapus i Siwan a'i rhieni.

...a Themâu Mae gan bob un o'r pum rhaglen ei thema arbennig ei hun, o fwyd a chadw'n iach i grefydd, adloniant, gwaith a chwarae.

A does dim ond ichi edrach drw'r rhaglenni, wel caneuon digri a phetha felly, ac er fod na chwerthin iach efo nhw chewch chi ddim hyd i'r un gair o'i le.

Wrth wneud hyn gadawer y rhai cryf ac iach ar gyfer y flwyddyn ddilynol.

Ond, fe garwn i eich cyflwyno i lên gwerin sydd yn fyw ac yn iach heddiw, sydd yn cael ei chreu a'i chynnal yn ein cymdeithas a'n diwylliant cyfoes.

Nid oedd angen dweud hynny, ddi-waith, gan fod y cŵn bron â marw eisiau mynd i'r awyr iach.

Wrth sefyll yn Eglwys Glenwood sy'n gosod pwyslais mor iach ar addoli a gwaith cymdeithasol, braf oedd darllen geiriau C.S. Lewis ynghylch gobaith y Cristion a'i genhadaeth.

Beti George Llwyddodd Beti George ac Euron Griffith i gadwr cyfrwng sgwrsio yn fyw ac yn iach gydau priod slotiau Beti ai Phobl ac Ie Ie, gyda'r ddwy gyfres yn llawn bywyd gyda gwesteion diddorol ac amrywiol.

'Adroddiad gan y lab ar fy siaced wrth-fwled yn ddiddorol.' Pwysodd Andrews ei benelin iach ar ei ddesg a'i ben ar ei law.

Agorodd y drws ffrynt, safodd ar garreg y drws ac anadlu'r awyr iach.

Yr oedd ci llwynog bach o gwmpas ac meddai John yn llawn athrylith am anifeiliaid: "Mi 'rwyt ti'n berffaith iach, y baw, mae dy hen nosi di'n reit oer." A byddai'r plant yn teimlo trwyn pob ci ar ôl hyn os byddai rhyw arwydd o salwch arno i weld a fyddai ei "nosi yn oer." A minnau wedi dechrau sôn am John Preis daw llawer hanesyn i'r cof am ei ymweliadau mynych â ni.

Caeodd ei lygaid a dodi'i ddwylaw dan ei ên: chwyddodd gwythi%en yn ei arlais a sylwodd y Rhaglaw ar y pentwr iach o gŵyr du yn ei glust chwith.

ù Sylweddolwn fod y gymdeithas yr wyf wedi'i disgrifio uchod yn uned ~iach' yn gymdeithasegol, ond er hynny yn dirywio o ran poblogaeth.

Roeddwn i'n ofni y byddai'r hen drwbl a gefais yn Lerpwl yn dweud yn f'erbyn hefo anffawd fel hyn, ond dywed y doctor fy mod yn syndod o gryf ac iach, a diolch i fywyd braf awyr-agored yr ynys y mae hynny, yn siwr i chi." Er hynny fe roddodd Dad ochenaid.

Trwy gydweithio gyda meddygon, ffermwyr a diwydianwyr, mae cemegwyr yn ein helpu i fyw bywydau mwy iach a chyfforddus.

Digon am y tro ydi datgan yn weddol hyderus, os byw ac iach, y bydd y cerrig hyn yn goffadwriaeth i rai o'n ty ni, am sbel go lew beth bynnag .

Mae'n amlwg ei fod yn gwneud mwy o synnwyr bwyta diet iach a chymryd digon o ymarfer corff.

Roedd ei groen yn llyfn a chlir a symudai fel dyn a chanddo gyhyrau iach iawn.

Gwna fi'n iach, weddusach wawd, O'm anwychder a'm nychdawd.

Gweld y drafodaeth am ffederaliaeth Ewrop yn 'beth iach' y mae'r Prif Weinidog Lionel Jospin, llywydd y Blaid Sosialaidd.

Beti George Llwyddodd Beti George ac Euron Griffith i gadw'r cyfrwng sgwrsio yn fyw ac yn iach gyda'u priod slotiau Beti a'i Phobl ac Ie Ie, gyda'r ddwy gyfres yn llawn bywyd gyda gwesteion diddorol ac amrywiol.

ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.

Y syndod oedd fod eu Cymreictod yn aros mor iach.

Iach+au Llawer

Mae o'i weld yn bloeddio'n iach iawn, diolch yn fawr, ac yn fodd i ddifyrru Cymraes fach gegrwth sy'n bell o'i chartre', beth bynnag!

O'r diwedd daeth dydd y profi - pnawn Sadwrn iach a thonnau mân yn dawnsio ar wyneb y llyn.

Mae pob ffarmwr drwy Gymru bellach yn gwybod am bwysigrwydd y mwynau i gadw ei ddiadell yn iach.

Cododd i fentro chwilio am lymaid o awyr iach, ond eisteddodd yn gynt o lawer nag y cododd.

Wedyn, os byw ac iach, ac os byddwch chi'ch dau yn dal efo'ch gilydd mi gewch ystyried priodi pan fyddwch chi'n ddigon hen.

Mae Hybu Iechyd Cymru eisoes yn chwarae rhan mewn amryw fentrau sy'n annog bwyta'n iach ymhlith oedolion a phlant.

Roeddwn i'n meddwl am dipyn mai wedi mynd yno i gael awyr iach roedd o, neu i feddwl .

Amgylchedd gweithio iach.

Mae'r busnes newydd mewnforio rhew o Rwsia'n talu ar ei ganfed, felly diolch yn fawr ichi'r un fath ond mi sticia'i at hwnnw os byw ac iach.

Fodd bynnag, gallech fwynhau pryd iach o fwyd mewn tŷ bwyta gyda'ch partner.

TG4 yw'r sefydliad cyntaf i ddod â chwa o awyr iach, o gyffro ac o ieuenctid i'r iaith Wyddeleg.

Does dim angen imi ddweud wrth unrhyw un pa mor bleserus yw chwerthin yn iach.

Cychwyn am ddeg o'r gloch o orsaf Castellamare, wedi canu'n iach i hen gyfeillion a - mewn hwyl raslon - i'r RSM Y trên bach yn orlawn.

Nid yw'n ifanc bellach, nid yw'n iach chwaith.

Mae allan o'r cwestiwn i ddyn symol iach gael digon yn ôl y dull yna.

Mae'r darlun byw yn yr ail baragraff yn bwysig iawn yn hyn o beth, a hefyd y llinell olaf un, lle cenir yn iach i Siôn yn y bedd islaw, yn hytrach nag yn y nefoedd uwchben.

Rhaglen fydd yn gofyn os y gwnaeth yr ugeinfed ganrif gyflwyno gwyl iach a ffyniannus i'r ganrif newydd.

Os edrychwch o'ch cwmpas yn ystod eich ymweliad a ni fe welwch fod yr iaith yn dal yn fyw ac yn iach ac mae'r optimistiaid yn ein plith yn credu fod y Gymraeg, efallai, wedi peidio ag edwino.

Un flwyddyn pan oedd y plant yn iach a hapus digwyddai'r Nadolig fod ar y Sul ac yr oedd canu carolau i fod yn y Capel.

Ewch yn iach, Sieffre o Fynwy, clywsom atsain olaf eich Brut.

Mae ymarfer corff yn rhan bwysig iawn o unrhyw gynllun rheoli pwysau a dylid ei ystyried fel rhan hanfodol o ffoddd y fyw iach.

Yr un ydyw ein dymuniadau i'n cyfeillion sydd wedi cael cyfnod cartref yn ddiweddar, gan obeithio y byddwch i gyd yn holl iach pan ddaw y Goriad nesaf allan.

Y mae dyn erioed wedi dymuno ennyn bendith y duwiau, ymatal rhag herio ffawd a rhagluniaeth ('Fe ddof yfory, os byw ac iach...' ) Mae'n awyddus i ennill lwc dda a chael bod yn ffortunus neu'n ffodus mewn bywyd (ansoddair sy'n tarddu o'r gair 'ffawd').

Mae Hughes yn ffyddiog y bydd Delaney yn ddigon iach i chwarae fory.

Y dasg yn y flwyddyn i ddod yw ymateb i sialensau aml-ochrog technoleg ddigidol ac arlein, cystadleuaeth ddwys, y Cynulliad Cenedlaethol, a'r pwyso a mesur cenedlaethol iach ar drothwy'r mileniwm.

Mae lle i feirniadu ar eiriad y datganiad yna, wrth gwrs; ond mae'r safbwynt y mae'n ceisio i fynegi yn hollol iach - a sosialaidd.

Iach am ei bod yn tynnu gwen i wynebu gwylwyr gan bortreadu pobl yn herio'n hamgylchiadau yn lle caniatau iddynt eu llethu'n llwyr.

Simsanodd yr hen sicrwydd felly sut mae cynnal gwaith a gwerthoedd cymdeithasol ac amgylchedd iach yr un pryd.

O'r adeg pan ryddhawyd ef ar y trydydd dydd bu'r dyddiau canlynol yn fath o dir neb yn ei fywyd, yn daith ddiddychwelyd, yn ganu'n iach i un ffordd o fyw a throi i dderbyn cymdeithas newydd, un na fyddai'n wir aelod ohoni.

Soniwyd amdano ar y pryd, sef tua diwedd tridegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r pedwardegau, fel un a oedd mewn cysylltiad agos â'r grŵp o bregethwyr ifainc a ddaeth dan wg brodyr yr hen ffydd 'iach' yn Sir y Fflint.

Cyn derbyn y fendith ar gyfer y ferch a ddioddefai gan Salwch Still, dywedodd Bryn Roberts wrthyf y byddai o help i'r ferch dderbyn iachâd pe bawn yn ceisio ei gweld yn fy nychymyg eisoes yn iach ac yn llawen.

Bydd chwaraewr canol-cae Cymru Robbie Savage yn cael archwiliad arall ar ei ben-glîn heddiw i weld a fydd e'n ddigon iach i chwarae yn y gêm yn erbyn Iwcrain wythnos i ddydd Mercher.