Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

iachawdwriaeth

iachawdwriaeth

Dyma arwyddocâd athrawiaeth y ddwy natur mewn perthynas â'r iawn, mai Duw sy'n gweithredu er iachawdwriaeth ei bobl gyda Iesu, fel Mab Duw, yn cyflawni'r goblygiadau dynol tuag at y Tad.

Yr un modd roedd ffydd rhai o bobl Rwsia y deuai iachawdwriaeth i'w rhan o gyfeiriad gwledydd rhydd, ffyniannus y gorllewin yn peri gofid i ddyn yn aml.

Williams oedd y diwethaf i ddirmygu'r athrawiaethau ond Crist yn y galon sy'n goleuo'r deall ac yn trawsnewid bywyd dyn a'i wneud yn etifedd iachawdwriaeth.

Dyna fyddai yn iachawdwriaeth i'n gwlad yn y ganrif yr ydym ar fyned iddi' (John Williams, Brynsiencyn, R.

Bu rhaid i awdur Pedeir Keinc y Mabinogi weithio allan ei iachawdwriaeth ei hun pan geisiodd ef egluro fod darganfod baban yng Ngwent-is-coed a'i fagu yno yn digwydd tra oedd Rhiannon yn dioddef ei phenyd yn Arberth, a gorfu arno geisio ffordd i ddwyn y ddau hanesyn yn un.

Ond pa ffordd bynnag y dee%llir iachawdwriaeth ni welir agwedd drugarog Duw at bechaduriaid fyth fel canlyniad y broses, ond fel ei achos a'i ffynhonnell.

Felly gwelir fod y Testament Newydd yn defnyddio amrywiaeth o drosiadau, bron bob un ohonynt yn deillio o syniadau yn y grefydd Iddewig, i ddisgrifio gwirionedd canolog iachawdwriaeth drwy Grist.

Er gwaethaf y gwahaniaeth pwyslais rhwng traddodiad y Dwyrain Uniongred, â'i sôn mynych am lygredigaeth a marwolaeth, â'r Gorllewin Catholig â'i sôn yntau am bechod ac euogrwydd, 'roedd yr eglwys gynnar yn un yn ei dealltwriaeth o weinidogaeth Crist fel aberth drud a offrymwyd i Dduw er mwyn cyflawni iachawdwriaeth dyn.

Diolchwn i Ti am gynnal y gweddill ffyddlon yng Nghymru sy'n dal i dystiolaethu i'r iachawdwriaeth yng Nghrist.

Daw yno i agor ail estyniad y Llyfrgell, a'r Cyfarwyddwr Gweinyddol Mr Maiwaring, aelod brwd o Fyddin yr Iachawdwriaeth, sy'n dweud fod pawb wrth eu bodd.

Ac y mae Habacuc yn dyffeio cyni â'i ffydd - "eto mi a lawenychaf yn Nuw fy iachawdwriaeth".

Daeth Duw yn ddyn yn Iesu Grist nid er mwyn bodloni chwylfrydedd meddyliol y Cristionogion cynnar ond er mwyn cyflawni iachawdwriaeth y byd: 'Yr hwn erom ni ddynion ac er ein hiachawdwriaeth, A ddisgynnodd, a ymgnawdolwyd Ac a wnaed yn ddyn ...'

Rhoddwyd £250,000 i Fyddin yr Iachawdwriaeth ar gyfer ei gwaith ymysg y rhai sy'n gaeth i gyffuriau yma yng Nghaerdydd.

Cyffyrdded dy Ysbryd Sanctaidd â'n calonnau nes bod gorfoledd yn dygyfor ynddynt a gwefr yr iachawdwriaeth yn troi'n gân ar ein gwefusau.

Sut bynnag y disgrifir ffrwythau'r iawn, boed fel iachawdwriaeth, gwaredigaeth, prynedigaeth, cyfiawnhad neu gymod, fe'i seilir ar aberth Crist, Mab Duw, dros bechod dyn.

Mae a wnelo'r ddeubeth â'r iachawdwriaeth ac y maent yn gysylltiedig â gwaith Crist ac ag athrawiaeth yr iawn.

Hefyd yn ystod y mis cynhaliwyd cyfarfod pryd y daeth y Capten David Emery o Fyddin yr Iachawdwriaeth i roi sgwrs i'r aelodau am waith y Fyddin yng Ngwynedd.

Cyflawnwyd motifau prynedigol yr Hen Destament yn ufudd-dod ac aberth terfynol Crist er iachawdwriaeth dyn.

Ailddarganfod rhyfeddod trugaredd Duw yn ei waith achubol yng Nghrist sy'n creu gorfoledd yr iachawdwriaeth.

Maddau inni'r camweddau hyn ac arwain ni i weld fod plant Cymru yn rhan o'n cyfrifoldeb am dy fod Ti wedi eu caru a bod bendithion yr iachawdwriaeth wedi eu harlwyo ar eu cyfer hwy fel ninnau, ond iddynt gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist.