Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

iasol

iasol

Pan oedd Mam wrthi'n rhoi'r sêl ei bendith ar yr Horlicks, a gwên fawr lydan ar ei hwyneb am y tro cynta'r diwrnod hwnnw, daeth sgrech iasol o'r llofft.

Yn stori garu hudol a doniol Donizetti, L'Elisir D'Amore (cynhyrchiad gan RM Associates i BBC Cymru) crewyd cyffro o wahanol fath gan y par gyda'u dehongliad iasol o'r darn hyfryd hwn a ddangoswyd ar BBC Two.

Byddem i gyd wedyn wedi cael ein rheoli gan estroniaid oerwaed iasol - a'r rheiny'n gosod arnom lywodraethwr chwyrn na faliai dreuliedig gondom amdanom.

Agorodd y drws yn araf rhag iddo wneud sŵn gwichian ac ymadawodd, gan adael chwa o wynt iasol i mewn ar yr un pryd.

'Mae'r ficer wedi trefnu seremoni bwrw ysbrydion ymaith ar ôl y plygain yfory.' 'Os digwyddith hynny,' meddai Dafydd yn iasol, 'alltudion fyddwn ni, wedi'n condemnio i grwydro drwy'r holl fydysawd eang.