Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

iawndal

iawndal

Ysgytwol yw eu cyhoeddi'n blaen fel hyn: erlynwyd dros 1,100 o unigolion mewn llysoedd barn yn Lloegr a Chymru am eu rhan mewn ymgyrchoedd; codwyd cyfanswm o £38,854 o ddirwyon a £26,283 o gostau llys a iawndal; a dedfrydwyd 170 o unigolion i gyfanswm o 41 mlynedd a deufis o garchar.

Yna fe ddaeth i olygu yr hyn sy'n deg i'w roddi fel iawndal i unioni cam ac felly i sicrhau cymod rhwng dau berson.

Ond mae rhai yn dweud y dylen nhw wrthod yr iawndal hwn rhag ymddangos yn rhy ariangar.

Yn ôl yr Arlywydd Robert Mugabe, Prydain ddylai dalu iawndal iddyn nhw.

Mae gan yr aelodau hyn o'r Cynulliad Cenedlaethol ar Senedd yn yr Alban hawl i £40,000 yn rhyw fath o iawndal am hepgor eu seddau yn San Steffan.

Felly nid oes unrhyw demtasiwn i gyfreithiwr Prydeinig ddechrau achos, nid am fod yr amddiffynnydd o feddyg wedi gwneud rhywbeth o'i le, ond yn y gobaith y bydd y cwmni yswiriant yn dewis talu iawndal yn hytrach na wynebu'r draul enfawr o gynnal achos cyfreithiol maith.

Pan yw achwynwr yn ennill iawndal mewn llys ym Mhrydain, ni chaniateir iddo siario'r iawndal hwnnw gyda'i gyfreithiwr.

Cwtogodd yr ynadon ar yr iawndal i'r Coleg trwy orchymyn o'r diffynyddion dalu £300 yr un i'r Coleg a £25 yr un at gostau cyfreithiol (1/3 o'r swm a hawliwyd gan yr erlyniad). Gwnaeth y ddau ddiffynydd dorri'r rhyddhad amodol yn syth gan ymuno ag aelodau o Gymdeithas yr Iaith i dorri darn o dir i blannu coeden afal o flaen prif fynedfa'r C.C.T.A. ym Mhibwrlwyd fel symbol o'r angen am gychwyn newydd.