Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

iddew

iddew

Gorfodi pob Iddew yn Yr Almaen i wisgo Seren Dafydd felen.

Os oedd y cread yn peri syndod i'r Iddew gynt, dylai'n gwybodaeth helaethach ni amdano beri inni synnu hyd yn oed yn fwy.

Yn y cyd-destun Cristionogol rhoddwyd ystyr newydd a llawnach i'r termau hyn i Iddew o Gristion, a daeth iddynt arwyddocâd cwbl newydd o fewn i'r eglwys.

Canodd alaw allan o El nino judio (Y plentyn o Iddew) opera o waith y cyfansoddwr Sbaenaidd Pablo Luna a chân Tatyana o olygfa'r Llythyr o Eugene Onegin gan Tchaikovsky.

Dyma'r coed oedd yn rhan o fytholeg yr Iddew.

(Gyda llaw, adleisiau o Iddew Malta a Dr Faustus a Tambourlaine (Marlowe).) 'Bei cawn i berfedd y ddaear im cist am coffr, mi gysgwn yn llonydd a gwyn fyddai fy myd'.

Roedd un yn briod ag Iddew ac yn byw ar un o'r kibbutz; roedd y llall yn briod â Phalestiniad ac yn byw ym Methlehem ynghanol yr helynt ar y Lan Orllewinol.