Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

iddewig

iddewig

Fel arfer, byddai criw Iddewig yn gorfod cael eu cludo i'r dref mewn cerbyd â'i ffenestri wedi eu cryfhau i wrthsefyll ymosodiadau'r intifada.

Ffolineb fyddai mentro defnyddio criw Iddewig â'r holl Balestiniaid yn y strydoedd; felly, dyna benderfynu cyflogi gŵr camera Palesteinaidd.

Yno fe'i cawn yn ei ffurf Roegaidd, Alelwia Aeth y mawl Iddewig bellach yn rhan o'r mawl Cristnogol, oherwydd dathlu buddugoliaeth yr Oen mae'r alelwia yn Llyfr y Datguddiad.

I ddod yn nes atom, ystyrier cenedlaetholdeb Iddewig.

Darparodd Duw, yn ei oruchwyliaeth drugarog, ffyrdd i ddileu'r halogiad hwn drwy aberthau penodedig, fel y'u nodwyd o fewn i'r ddeddf Iddewig.

Yn y spectrwm cenedlgarol yr oedd hefyd y math o dduwioldeb hiraethus a ddyheai am ymwared i'r bobl Iddewig ond a ymddiriedai nid mewn unrhyw fraich o gnawd ond, gan ddilyn Eseia a phroffwydi eraill, yn nerth ysbrydol yr Arglwydd.

50,000 yn cael eu lladd gan yr SS yng ngeto Iddewig Warsaw.

ch) Caethiwed arall oedd caethiwed y gorchmynion y grefydd Iddewig.

Brandenburg - beddau'n cael eu dinistrio a cherrig beddau'n cael eu handwyo mewn nifer o fynwentydd milwrol Iddewig a Sofietaidd.

Yn union fel y bu i'r Archoffeiriad Iddewig, ar W^yl y Cymod, daenu gwaed ar glawr neu 'drugareddfa' Arch y Cyfamod a gedwid yng nghysegr sancteiddiolaf y deml, aeth Iesu yntau y tu hwnt i'r llen wedi taenu ei waed ei hun yn aberth dros ei bobl (Heb.

Felly gwelir fod y Testament Newydd yn defnyddio amrywiaeth o drosiadau, bron bob un ohonynt yn deillio o syniadau yn y grefydd Iddewig, i ddisgrifio gwirionedd canolog iachawdwriaeth drwy Grist.

Rhyfedd yr ymgeledd a gafodd dynion drwy'r oesoedd gan y gwragedd: Dyma air o un baraita Iddewig hen, hen: "I bob creadur a arweinir y tu allan i'r porth i farw, fe roddir tamaid bach o fygarogl neu sbeis mewn cwpanaid o win i drymhau a marweiddio'r synhwyrau ......

Roedd yna hyd yn oed wahoddiad i newyddiadurwyr gael swper gyda theulu Iddewig.

Gwrthun i'r gymuned Iddewig fu ymdrechion diweddar i ganoneiddio Isabella o Sbaen.

Bu rhai ysgolheigion yn barod i haeru mai Selot, cenedlaetholwr Iddewig, oedd Iesu, a'i fod yn barod, yn enwedig tua diwedd ei weinidogaeth, i ddefnyddio nerth braich a chyllell i ryddhau ei wlad o afael Rhufain.

Ond collir golwg ar natur gyfangwbl ddiwinyddol y syniad Iddewig wrth ddilyn y trywydd hwn, gan mai'r datguddiad o Dduw yn hytrach nag unrhyw falchder cenedlaethol a orffwys y tu ôl iddo.

Roedd y cwbwl ar dâp - y dagrau, y gweiddi, menyw'n llewygu dan y gwres a'r emosiwn, wynebau oer a gynnau cadarn y milwyr Israelaidd, a baner y wladwriaeth Iddewig yn chwifio'n herfeiddiol ar dir y daeth yn amlwg imi nad oes ganddynt y bwriad lleia' o'i ddychwelyd i'w wir drigolion.

Y mae pawb yn ddarostyngedig ac yn gaeth i'r ddeddf a'i dedfryd (gyda chyfeiriad yma at y ddeddf Iddewig a'i hordeiniadau, Rhuf.

Cafodd y milwr ei ladd a dau arall eu hanafu ger tref Iddewig yn Llain Gaza yn ystod ymosodiad ar doriad gwawr gan un o grwpiau Fatah sydd â chysylltiad ag Arlywydd y Palesteiniaid Yasser Arafat.

Yr unig bwnc trafod oedd undod Arabaidd yn erbyn y gelyn Iddewig.

Ymgyrchoedd comiwnyddol yn Yr Almaen, ac ar yr un pryd teimladau gwrth-Iddewig yn eu hamlygu eu hunain yn y wlad.

Pan fabwysiadwyd llyfrau'r Hen Destament gan yr Eglwys Gristionogol yn dreftadaeth iddi, wrth gymryd yn ganiataol fod parhad rhwng crefydd yr Iddewon a Christionogaeth, fe dderbyniodd yn rhan bwysig o'r dreftadaeth honno y syniad Iddewig mai diben Duw yn cael ei weithio allan mewn amser yw hanes.

I wneud pethau'n waeth, gwelai hysbysebion teledu lle'r oedd plant Iddewig yn derbyn hyfforddiant ynglyn â sut i ddefnyddio masgiau oedd yn cynnwys pympiau batri i hwyluso'r anadlu.

Roedd hi'n anhygoel canfod fod Siwsan Pwllheli ar y kibbutz yn gweld y byd trwy lygaid Cymreig ac Iddewig tra bod Siwsan Porthmadog ym Methlehem yn gweld y byd trwy lygaid Cymreig ac Arabaidd.

Os oeddwn wedi disgwyl rhywbeth hurt, fel miloedd o blant yn canu a dawnsio i gyfeiliant darlleniadau o'r Llyfr Gwyrdd sy'n cynnwys doethinebau Gadaffi, fe sylweddolais yn fuan mai ysgolion oedd y rhain i bregethu undod Arabaidd yn erbyn y gelyn Iddewig.