'Rwyt ti wrth dy fodd yn bwydo'r ieir.'
Yn sicr, ni fwriadai hi dreulio ei hoes mewn cragen o dŷ fel hwn yn syllu drwy'r ffenestr a magu ieir ur un fath â'i nain.
Roedd tŷ'r gweinidog -Bodathro, fel y gelwid ef - yn ffermdy, mewn gwirionedd, gyda nifer o dai allan, gardd a pherllan fawr lle y cadwai ei dad nifer o ieir.
Yr hyn sy'n syndod yw, er fy mod yn bendant y dylid dileu hormonau hybu tyfiant ar BST, mae'n ymddangos bod y farchnad gig cywion yn tyfu a datblygu er ei bod yn wybodaeth gyffredinol bod hormonau tyfiant ym mwydydd y cywion ieir.
'O?' 'Efo Ifan Paraffîn, yn y bus.' ''Ron i'n meddwl 'mod i'n gweld gola' ac yn clywad rhyw swn pan o'n i'n cau ar yr ieir.' Sylweddolodd Dora Williams ei bod hi'n sefyll yn llond y ffenestr yn ei choban, yn wyneb llafn o olau lleuad, a theimlodd ei hun yn cael ei dadwisgo'n gyflym.
Dychmygaf rhyw wyddonydd heb ddim gwell i'w wneud yn cyhoeddi nad yw Sion Blewyn Coch yn mwynhau ieir a ffowls a hwyaid Llyn y Felin ar ei fwrdd cinio.
Mae'r ieir yn fwy o ran maint na'r ceiliogod, a phan ddaw eu tro i wisgo eu côt arian i ddychwelyd i'r môr, byddant yn pwyso ychydig dros bwys.
Nid oedd obaith mynd allan i doi cwt yr ieir, oherwydd y tywydd, a bodlonais, fel rhywun wedi ymddeol, ar eistedd yn ddigywilydd ganol y bore i edrych ar y teledu.
Drws y ty yn agored i'r byd a'r ieir a'r cwn yn rhedeg drwy'r ty a neb yn meddwl dim am hynny.
Gwêl Begw'r ieir yn swatio yng nghornel yr ardd 'a'u pennau yn eu plu, yr un fath yn union ag y stwffiai hithau ei phen i'w bwa blewog yn y capel ar fore Sul oer' (Tc yn y Grug).
Pan brioda Shôn a minnau Fe fydd cyrn ar bennau'r gwyddau Ieir y mynydd yn blu gwynion Ceiliog twrci fydd y Person.
Cyn iddo agor ei lygaid, medrai Geraint glywed sŵn organ yn gymysg â lleisiau'n gwau drwy'i gilydd fel ieir.
Ond yr un oedd cadw dyn â chadw ieir i'w nain, gofalu am ei fwyd a'i gysur a hynny'n ei iawn bryd.
Byddai'n cadw tipyn o ieir i helpu bwydo'r criw.
Ieir a chwn yn rhedeg o gwmpas y lle a neb yn malio dim amdanynt.
Eto wrth syllu ar set drawiadol a naturiolaidd Angharad Roberts allwn i yn fy myw feddwl sut oedd y cynhyrchiad yma yn mynd i fod yn "arbrofol" - onibai fod yr ieir am ganu, gwneud dawns y glocsen a dodwy yr un pryd!
Bydd yr ieir yn aros rhwng deg a deuddeng mlynedd, ac y mae cofnod ple maent wedi aros yn hwy o lawer.
Mi gei di fwydo'r ieir os lici di.'
I wneud pethau hyd yn oed yn fwy bizarre, roedd Richard, sy'n gawr o ddyn a chanddo farf flewog, mor amlwg â llwynog mewn cwt ieir.
O gwmpas y fferm neu'r tyddyn byddai'n godro'r gwartheg ac yn gofalu am y moch a'r ieir.
Dim ond tri chyffyrddiad o baent a ddefnyddir i gyfleu'r ieir yn y blaendir a dim ond un llinell doredig ar letraws yw'r ystol sy'n pwyso ar un o'r teisi.
Cerdd Dant a Chynghanedd yn cael eu llusgo dan brotest i gefn Folfo a'r Babell Lên grand yn lle "i gael y'ch gweld" o'i chymharu â'r hen gwt ieir annwyl a fu.
Dechreuodd Jini ddarllen, 'Cymerwch: Chwe owns o hylif o lys brogaid, Hanner pwys o afu tramp, Dau ddwsin o hadau dannedd ieir, Dwsin o wyau clwc, Tri phwys o eira llynedd, Hanner pwys o gaws o fola ci...'
Câi'r gŵr y moch, yr ieir ac un gath o blith yr anifeiliaid, a'r wraig weddill y cathod, y defaid a'r geifr.