Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ieithwedd

ieithwedd

Os torrodd y modernistas trwy dir gwyryf yn eu harbrofion gyda mydrau newydd, a chydag ieithwedd a ddaeth o Ffrainc, gwnaeth beirdd y pum a'r chwedegau yng Nghymru rywbeth tebyg gyda'u defnydd o'r vers libre.

Cyhoeddodd dri llyfr - y Llythur ir Cymru Cariadus, Gwaedd ynghymru yn wyneb pob cydwybod a Llyfr y Tri Aderyn (a defnyddio ei deitl poblogaidd), - a thrwyddynt arllwys ar wlad fach, na chawsai syniad gwreiddiol er pan genhedlodd John Penry, genlli o feddyliau dierth, a'r rhai hynny wedi eu cyflwyno mewn dull ac ieithwedd a oedd yn syfrdanol o newydd.

Nid oes amheuaeth na fu gan ardal Penllyn, holl natur a naws y wlad a'i hiaith, ddylanwad anhraethol ar ei ieithwedd, ar y ffordd y syniai am fodolaeth a'r ffordd y dehonglai arwyddocad ei brofiadau hen a newydd.

Dyma ūr sy'n huawdl iawn wrth areithio, a'i ieithwedd yn lliwgar ond y deall yn finiog.

Ysgrifau yn ystyried ieithwedd a chyd-destun gwaith y llenor.