(ii) Ieithyddiaeth Ddisgrifiadol, yn canolbwyntio ar ddadansoddi a disgrifio'n syncronig, hynny yw, mewn cyfnod arbennig neu, nodweddion ieithoedd unigol, gan gynnwys iaith ardal (tafodiaith) neu ddosbarth arbennig neu hyd yn oed iaith unigolyn (idiolect); (iii) Ieithyddiaeth Gymharol, yn cynnwys cymharu dau gyfnod yn hanes un iaith neu'r berthynas rhwn nifer o ieithoedd; astudiaeth hanesyddol, ddeiacronig y gelwir y math hwn o waith ieithyddol; (iv) Ieithyddiaeth Gymwysedig.
Dyma rywbeth newydd yn Gymraeg, er nad yw'r teitl yn datgelu hynny, sef llyfr ar Ieithyddiaeth, pwnc nad yw wedi cael llawer iawn o sylw yng Nghymru hyd yma, ac y mai'n dda ei gael.
Nid dechrau o'r dechrau yr şm o hyd wrth ddatblygu'r grefft o ddysgu ail-iaith, ond manteisio ar yr enillion a gafwyd wrth astudio didachteg iaith ac ieithyddiaeth gymwysedig yn broffesiynol.
Yn y Rhagarweiniad trafodir yn fyr y dosbarthau gwahanol mewn Ieithyddiath : (i) Ieithyddiaeth Gyffredinol neu Ddamcaniaethol, yn gofyn cwestiynau cyffredinol, megis, beth yw iaith?; sut y mae iaith yn gweithio?; pa elfennau sy'n gyffredin i bob iaith?
Yn y ganrif hon, y wedd gymdeithasol ar ieithyddiaeth sydd wedi tynnu sylw llawer o ieithyddion h.y., cydberythynas amrywiadau mewn iaith a nodweddion eraill, megis safle cymdeithasegol neu economaidd y siaradwyr, ffurfioldeb, etc.
Gresynai Cynddylan fod cymaint o ôl syniadaeth William Owen Pughe - ar y cystadleuwyr a barnai Hawen i'r beirdd eu harwain 'i diroedd gwynfaol - rhamant disylwedd...' Diystyrwyd gwersi ieithyddiaeth gymharol yn llwyr: 'Ofnwn, pe cyfieithid rhai darnau o rai o'r pryddestau hyn, y câi y philistiaid Seisnig wledd na chawsant ei bath er ys llawer dydd.