Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ieuengaf

ieuengaf

Yn y diwedd, fe gymodwyd rhwng Morgan ac Evan Meredith gan neb llai na Syr John Wynn o Wedir, y bu priodas ei frawd ieuengaf ag aeres Maesmochnant yn achos effeithiol yr holl helynt, ac am ychydig flynyddoedd fe fu tawelwch cymharol yn Llanrhaeadr, fel y buasai yn ystod blynyddoedd cyntaf trigiant Morgan yno.

Anodd iawn meddwl amdani yn llwyddo fel adloniant i deulu cyfan gan nad oes digon yma i gadwr plant ieuengaf ar binau.

Câi'r tad y mab hynaf a'r ieuengaf, a'r fam y mab canol.

Eu rheswm dros y cyngor oedd fod ar y plant amddifaid, yn enwedig y rhai ieuengaf, angen mam.

Alun Bwlch oedd y llall, mab ieuengaf y diweddar Williams Owen, cipar Plas Gwyn a'i wraig.

Mewn boneddigeiddrwydd gadawyd i'r rhai hynaf gymryd eu heisteddle wrth y bwrdd yn gyntaf, a chafodd pedwar o'r rhai ieuengaf eu hunain heb le i eistedd, sef Harri, Ernest Griffith, a dau arall.

Dangosodd pob un ohonynt, o'r ieuengaf i'r hynaf, ddiddordeb bru+d yn yr hyn yr oedd gan Mrs Davies i'w ddweud wrthynt.

Ar un adeg, fe geisiai'r wardeiniaid fod yn drugarog wrth gyflawni gorchwyl mor annymunol, a phenderfynwyd mewn rhai achosion mai'r drefn fwyaf dyngarol fyddai lladd y rhai hþn o fewn yr haid, a diogelu'r rhai ieuengaf.

Yn ei galon, gwyddai Capten Timothy mai hwn oedd y cyfle olaf iddo fod gyda'i wraig a'i bum plentyn - naw mis oed oedd Jane, yr ieuengaf - a hynny am hir, hir amser; llythyrent â'i gilydd mor gyson â phosibl yn ôl y cyfleustra a hyd yn oed anfon ambell gerdd i'r naill a'r llall: May Guardian Angels their soft wings display And guide you safe thro' every dangerous way.

Daethai ef a'i modryb Alme i flasu unwaith eto swyn eu cynefin, cael cwmni Howel y brawd ieuengaf a'u tendio gan Hannah a merched eraill y Teulu.

Ef, yn 28 oed, oedd yr ieuengaf o gystadleuwyr y noson gyntaf ac ef oedd enillydd y noson.

Gan greu awyrgylch nos Sadwrn, cyflwynodd DJ ieuengaf erioed BBC Radio Wales, Leanne Pearce (Precious) sy'n 20 oed, y rhaglen House Party.

Gan mai gorau po ieuengaf mae rhywun yn dysgu iaith, mae'n amlwg fod yn rhaid rhoi'r pwyslais pennaf ar ddysgu Cymraeg i blant a phobl ifanc, gan gofio hefyd am y gynhaliaeth sydd ynghlwm wrth hynny, megis rhieni a'r teulu estynedig ar yr un llaw, a chyfundrefnau addysg a hyfforddiant ar y llaw arall.

Bu+m yn sgwrsio hefyd ag Alice Harrietta Jones (Etta), chwaer ieuengaf David Ellis, a recordiwyd ei hatgofion amdano ar dâp.

Dyma'r arwydd cyntaf fod y brawd ieuengaf yn gwrthod dilyn y llwybr a gymerwyd eisoes gan Henry Rees, a ennillasai ymddiriedaeth John Elias fel cynrychiolydd yr hen gyfundrefn ymhlith y Methodistiaid.

Profedigaeth chwerw iddo fu claddu ei fab ieuengaf, Robert Daniel Evans, newydd orffen cwrs o addysg a enillodd trwy ysgoloriaeth yn Ysgol Sirol Y Bala.

Cyfeiriais, wrth gwrs, at enw fy chwaer ieuengaf Fflos, 'Florence Graham Davies', a hefyd at enw fy 'Auntie Polly,' chwaer i'm mam ond rhyw flwyddyn a hanner yn iau.

Yn y fan honno ymunodd gwraig y Capten â'r llong gyda thair o enethod - un yn bump oed, un arall yn dair a'r ieuengaf yn flwydd.

Clywsom am ei wraig a'i dri phlentyn Peter, Julie Ann a Marie - Marie yr ieuengaf yn gannwyll llygad ei thad.