Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

igam

igam

Heol garegog, igam-ogam, yn llawn llwch a darnau mawr a bach o garreg dawdd.

Cynllun y cyfansoddi sy'n rheoli: llinell letraws cwmwl yn cyd-bwyso â llinell letraws y graig ac yn tywys y llygaid ar lwybr igam-ogam trwy ofod y darlun at y bobol yn y blaendir.

A 'da chi ddim wedi talu'ch ffer 'chwaith.' Fel roedd William Huws yn croesi'r cae, a'r hen hwch yn igam-ogami'i rhyddid newydd, clywodd swn traed cybiau'r sêt gefn yn trybowndio i lawr grisiau'r bus dan siantio'u gwrthryfel dros y wlad dywyll, agored.

Dyma'r rheswm, debyg iawn, i amheuon Williams Parry gymryd llwybr igam-ogam ac ansicr.

Ond ar gyfer y diog, mae rhes o fulod ac asynnod sy'n ddigon o ddychryn wrth iddyn nhw ruthro heibio a'ch gwasgu yn erbyn y wal os mai wedi penderfynu cerdded y llwybr cul, igam-ogam, ydych chi.

Bedwar mis yn ôl 'roedd y llwybr igam-ogam o'r llidiart i'r buarth fel haearn Sbaen ond heddiw edrychai'n debycach i afon na dim arall a châi'r Mercedes moethus drafferth i deithio.

Wrth edrych ar y terfynau igam-ogam ar y mapiau, mae'n amlwg mai mympwy yn hytrach na bwriad a osododd i lawr lun a maint y plwyfi.