Bid a fo am hynny, mae'r gair Cymraeg 'awen' yn nes o ran ei ystyr i ysbrydoliaeth nag ydyw dychymyg, ac onid wyf yn camgymryd, 'roedd Waldo'n ffyddlon i ryw gynneddf yn ei natur wrth ddewis y gair hwn, ac wrth wneud, 'roedd yn gallu cadw'r hyn a oedd yn werthfawr yn ystyr y gair 'Imagination' i Blake heb gael ei lluddias gan rai o ragdybiaethau'r meddwl diweddar am y dychymyg.
Awgrymwyd eisoes fod Waldo'n mawrbrisio'r hyn a oedd Dychymyg neu 'Imagination' i Blake, ond rhyngom ni a Blake y mae Freud a'i ddamcaniaeth am yr isymwybod, a bellach fe briodolir i'r isymwybod lawer o'r gweithgareddau a briodolid gynt i'r dychymyg.