Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

incwm

incwm

Mi fyddai cynnydd yn y pensiwn a rhoi mwy o arian ar gyfer budd-dal incwm yn gwneud i fyny am beth fydden nhw'n golli, meddai.

Mae CAA, CAI, CGAG a MEU yn gwerthu eu cynnyrch ac felly yn derbyn incwm sy'n lleihau cyfraniad y grant.

Dibynna'r drydedd dybiaeth, sef mai'r incwm gwladol sy'n pennu treuliant, ar egwyddor cyfranrediad, egwyddor sy'n ganolog i astudiaethau macro-economeg confensiynol.

ADRODDIAD ARIANNOL Dywedodd Roger Fox nad oedd yr adroddiad ond amlinelliad syml o incwm a gwariant.

'Roedd y rhaglen gyntaf i gyflwyno'r pwnc, trwy gymharu cyfoeth a thlodi a thrwy gyflwyno y syniad o'r hyn sy'n normal - amgylchiadau a sefyllfaoedd y byddem ni yma yng Nghymru yn ystyried yn normal ond sy'n hollol wahanol i'r hyn a ystyrir yn normal yn y byd ar y cyfan yn nhermau incwm, tai, trafnidiaeth, hyd oes ac yn y blaen.

Codir tal am y gwasanaethau hyn ond gellid codi mwy o incwm eto trwy'r dull yma.

Bydd gweithgarwch gweinyddol a marchnata S4C dros y ddwy flynedd nesaf yn cael ei ariannu gan incwm masnachol y sianel.

A bwrw'n fras fod prisiau wedi dyblu, ac enillion wedi cynyddu ryw deirgwaith, yr oedd gwir incwm wedi codi ryw hanner dros y cyfnod: camp ddigon canmoladwy.

Y gobaith yw gallu mynd ar ôl hysbysebwyr er mwyn cael ychydig mwy o incwm, a cheisio cynyddu nifer y tanysgrifwyr, sydd wedi gostwng yn ddiweddar oherwydd y cyhoeddi anghyson.

Gweithredir y polisi hwn mewn ffordd a fydd yn cynhyrchu incwm rhent digonol i ariannu gweithgareddau'r Gymdeithas yn llawn, ond ar yr un pryd anelu at gadw ein ymrwymiadau i osod lefelau rhenti fel y gall pobl ar incwm isel eu fforddio.

Mae'n enghraifft o fenthyciad i'w osgoi ar bob cyfrif os oes unrhyw siawns y gall eich incwm ostwng.

Mae'r incwm a ddaw o werthiant pellach wedi'r dosbarthiad cyntaf yn mynd i'r cyhoeddwr.

Disgwylir incwm o'r gwerthiant noddi cyhoeddi pellach.

Y mae hyn yn arbennig o wir am unrhyw newidiadau yn ymwneud â'r dreth incwm, naill ai yng nghyfraddau'r dreth, neu yn y lwfansau personol.

Bwriad yr arolwg fyddai mesur yr angen yng nghymunedau gwledig a threfol y dosbarth ynghyd â chyflwyno tystiolaeth am y math o angen lleol, boed hynny yn gartrefi ar gyfer yr henoed, pobl ifanc, teuluoedd ar incwm isel a.y.

Llwyddodd BBC Adnoddau, Cymru i wella ar y targedau ariannol ar gyfer 1999/00 yn sgîl incwm gwaelodol cynyddol yn ogystal â pharhau i leihau costau oherwydd holl ymdrechion staff BBC Adnoddau, Cymru i sicrhau llwyddiant i'r busnes hwn ynghyd â'r awydd i gryfhau a chynnal y sylfaen grefft ar gyfer BBC Cymru.

Dengys cymhariaethau â Chymru a Phrydain fod lefelau incwm yng Ngwynedd dipyn yn is na'r cyfartaledd dros Brydain a Chymru gyfan.

Cyfreithiwr y Cyngor Yr Uwch Drysorydd Cynorthwyol Y Trysorydd Cynorthwyol (Incwm) Y Rheolwr Gwasanaethau Uniongyrchol Swyddog Datblygu'r Economi Y Prif Gynorthwywr Gweinyddol (Adran y Prif Weithredwr) Yr Ysgrifennydd Dosbarth Cynorthwyol Is-bwyllgor Iaith

Mae'r eiddo i fynd i'w frawd, Thomas, tra bydd byw, ond wedyn y mae elw a rhenti ac incwm yr eiddo i fynd at sefydlu a chynnal ysgol ym Motwnnog.

Wedi blynyddoedd o wynebu dyledion a chamweinyddu, meddyliwyd am y cominoedd fel moddion i ychwanegu at incwm tiroedd y goron.

Gellir disgwyl i newidiadau yn y dreth incwm, er enghraifft, effeithio'n gyflymach o dipyn na newidiadau yn y dreth ar gorfforaethau.

Mae'r we yn un esiampl, ac fe soniodd Iwan am enghraifft y swyddfa dreth incwm.

Fel y gwyr pawb bellach, nid oes ad-daliad treth incwm i'w gael yn awr ar ail forgais na chymorthdaliadau i atgyweirio tai o'r fath.

Cyfyngir y dorf i 2,500 sydd yn ei dro yn cyfyngu incwm y clwb.

Cofiwn hefyd mai galwedigaeth ansefydlog oedd y weinidogaeth yn y cyfnod hwn, yn enwedig i'r sawl nad oedd ganddo ffynhonnell arall o incwm i'w gynnal ef a'i deulu.

Ategu gwaith awdurdodau tai trwy ddarparu cartrefi o safon i bobl leol sydd ar incwm isel ar gost y gallant ei fforddio, boed ar rent neu ar gyfer prynwyr tro cyntaf, ynghyd ag ateb angen pobl sydd ag anghenion arbennig gan geisio gwneud hynny o fewn stoc bresennol yr ardal, yn y dull mwyaf effeithiol, efo gwasanaeth sydd yn atebol i'r defnyddwyr a'r cymunedau lleol gan rannu'r adnoddau'n deg rhwng gwlad a thref.

Gan fod amaeth Gymreig mor ddibynnol ar y gyfundrefn gynhaliol (y grantiau) - ofnir i'r newidiadau yn y PAC achosi yn y man gwymp pellach yn incwm y ffermwyr ac yn eu nifer.

Cyfraniad AALl Gorbenion ac offer Incwm

Cafodd Dic lot o sbort ond gadawodd wrth i bobl y Dreth Incwm ddod ar ei ôl.

Cyflawnwyd hyn trwy reoli costau'n llym er gwaethaf y dirywiad mewn incwm masnachol o BBC Cymru.

Er mwyn cael darlun cyflawn rhaid ystyried hefyd cyfraniad y canolfannau, a'r incwm a ddaw yn sgîl gwerthu'r adnoddau.

Y mae lefel incwm cyflogaeth lawn yn newid o flwyddyn i flwyddyn fel canlyniad i newidiadau yn y cyflenwad llafur, ac i'r cynnydd mewn cynhyrchaeth llafur.

Y mae gan lai nag un teulu ymhob deg gar, ac ystyried bod teulu yn y dosbarth gweithiol oedd ag incwm o ddeg punt yr wythnos yn gwneud yn dda.

Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod sector y amaethyddol yn parhau yn gadarn a llewyrchus, nid yn unig fel un'r prif ffynonellau incwm, ond hefyd fel ffactor i gynnal y boblogaeth wledig gynhennid, cadwraeth y tirwedd ac i sicrhau parhad hunaniaeth diwylliannol a ieithyddol ardal y Parc.

Ychwanegodd y byddai'r Rheilffyrdd Prydeinig yn barod i ailystyried y sefyllfa os oedd y Cyngor yn barod i gyfrannu'r gwahaniaeth rhwng y gost a'r incwm a dderbynnid gan y gwasanaeth tren hwn.

Byddai model cydbwysedd cyffredinol sy'n cynnwys yr holl farchnadoedd hyn yn pennu lefelau cytbwys prisiau, y gyfradd llog, a buddsoddiant, yn ogystal â'r incwm gwladol.

(Gyda llaw, yr Athro Henry Lewis oedd athro Cymraeg yr ysgol ar y pryd.) Yn wir, bu'n rhaid i'w dad hefyd, er mwyn ychwanegu at incwm y teulu, weithio yn y Gwaith Powdwr ym Mhen-bre.

Er enghraifft, os gwelir bod yr incwm oddi wrth werthiannau wedi codi, a ydyw hyn wedi digwydd am fod y gwerthwyr yn fwy effeithiol, neu am fod ansawdd y cynnyrch wedi gwella, neu am fod cyflwr y farchnad yn fwy ffafriol?

Ym maes gynaecoleg deallaf fod y tebygrwydd y bydd gwraig yn cael hysterectomi rywbryd yn ystod ei hoes yn dibynnu mwy ar incwm ei gŵr nag ar unrhyw ffactor amlwg arall.

Dywed hyn lawer wrthym: a ydyw'r incwm wedi cyrraedd y ffigur yr anelwyd ato?

Yn ei hanfod mater o dai ac incwm addas yw hwn.

Yn gyntaf: nid yw'r galw am nwyddau yn cynyddu'n gymesur â'r codiadau mewn incwm.

Llwyddodd BBC Adnoddau, Cymru i wella ar y targedau ariannol ar gyfer 1999/00 yn sgîl incwm gwaelodol cynyddol yn ogystal â pharhau i leihau costau oherwydd holl ymdrechion staff BBC Adnoddau, Cymru i sicrhau llwyddiant i'r busnes hwn ynghyd âr awydd i gryfhau a chynnal y sylfaen grefft ar gyfer BBC Cymru.

Cost llawn projectau = cymorth grant + cyfraniad - incwm y ganolfan

Yr ail nodwedd yw hon: pan fydd incwm yn codi gwell gennym brynu nwyddau tramor na rhai'r wlad yma ac, yn ychwanegol at hyn, mae gwledydd eraill yn llai tueddol i brynu nwyddau Prydeinig.

(v) lefel prisiau yn ddigyfnewid tra pery lefel yr incwm gwladol yn is nag incwm cyflogaeth lawn, ac unrhyw newid mewn incwm arian felly, yn gymesur â newid mewn incwm real;

Mae nifer yr oriau a gomisiynwyd wedi cynyddu o 37 i 70, sy'n werth £16.03 miliwn o incwm y rhwydwaith.