Hawdd iawn yw credu fod galar tad ar farwolaeth ei fab yn brofiad sydd yr un fath ymhob oes, ond y gwir amdani yw fod marwolaeth plentyn yn llawer mwy ingol heddiw am ei bod cymaint yn llai cyffredin (yng ngwledydd y gorllewin o leiaf).
Un o'm horiau ingol ydoedd.
Rowland Hughes a oedd yn ingol ymwybodol o broblemau cymdeithasol yn ar ardaloedd y chwareli a'r gweithfeydd glo.
Mae adleisio seiniol brudd yn y llinell gyntaf yn ein paratoi ni'n bwysleisiol ar gyfer y patrwm cynnar: fe'i dilynir gan ng-n...ng...n ac yna gan ailadrodd ingol 'nid dy golli di' sy'n ateb yn union.
Mae'n debyg mai fel chwiw dros dro y bwriadwyd i'w dro%edigaeth wleidyddol gael ei darlunio gan nad yw'r dadrith yn brofiad ingol iawn i Harri; o reidrwydd felly gan fod y nofelydd yn paratoi Harri ar gyfer tro%edigaeth ysbrydol barchusach o lawer.
Nid oes unrhyw brofiad yn fwy ingol na gwylio rhywun yn dioddef poenau dirdynnol heb fawr ddim gobaith gallu eu lleddfu.
Ac a allwn ni ddiystyru'r anobaith ingol a fynegodd Jeremi Owen mor huawdl yn ei Ddyledswydd Fawr Efengylaidd?
Trawsgyweiriad ingol a dryslyd yw'r un o lwyddiant a dylanwad i ddistadledd a dirmyg.
Er bod teimladau dwys ac ingol y tu ôl i bryddest fuddugol L. Haydn Lewis, pryddest eiriog a chwithig ei chystrawen ydyw.
Profiad ingol ar drothwy'r 'Dolig oedd mynd heibio a gweld dim ond pedair wal yn sefyll a pheirianna'n turio hyd yn oed i sylfeini un o'r rheini tra llosgai'r gweithwyr rai o blancia'r to yn ei grombil gwag, y gwreichion yn tasgu o'r fflama' a'u cochni yn cael ei adlewyrchu yn gysgodion grotesg ar blastar y muria' i oleuo mwrllwch bore oer o Ragfyr.
Wrth ffarwelio'n derfynol mae'r geiriau hynny'n cyfleu'r argraff fod y mab yn dal yn fyw ym meddwl y bardd, ac yn y tyndra ingol hwnnw y mae grym y gerdd fawr hon.
Hydref ddail, dorf eiddilaf - sy'n eu trem Yn swn troed y gaeaf, Treulient eu horiau olaf Ar ingol ddor angladd haf.