Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

injian

injian

Roedd injian dîsl nerthol yn cynnal y rheiny ac yn gyrru'r cwch pan nad oedd gwynt digonol.

Synnwn i ddim nad yw ambell i blentyn ysgol yn dipyn o grât injian Rover i'w athrawon.

Cariai ei gwpan gyda'i dun bwyd mewn bag, a châi ei llond o ddwr poeth o gwt injian y bonc lle y digwyddai fod yn gweithio, yna fe wagiai hanner llond tun oxo o de a siwgwr yn gymysg ar ben y dwr a gosod ei law yn dynn dros y gwpan a'i hysgwyd yn iawn, ac er i'r dail fod yn nofio ar yr wyneb fe âi'r cwbl i lawr--ond y rhai a lynnai wrth ei fwstas.

Dwyf i ddim yn siwr pwy oedd yn mygu fwyaf, ai'r injian LMS yn pwffian i fyny'r 'cutting' serth ger Trewyn Bach neu fi gyda fy 'Churchman's No.

Blwch mawr, pren, yn cynnwys injian car y cymerai fore da i giang ohonom ymlâdd i'w symud o un lle i'r llal.

A thra oedd Jock a minnau'n dygnu arni yng ngwres llethol y prynhawn, ac yn chwythu mwg fel dwy injian drên ni allem lai na dyfalu ar ba antur y bu 'Gwep Babi' trwy gydol y bore.

Yna cymrodd lwybr llyffant yn ddigon llwyddiannus am bwl, beth bynnag, dros ac heibio'r hen gombein a'r heuwr a'r injian wair a'r heyrs blêr yn y gadlas.