Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

iodin

iodin

Fel ag iodin cyffredin, pan roddir ffurf ymbelydrol o iodin i berson, mewn diod neu drwy chwistrelliad, bydd canran sylweddol ohono yn cael ei amsugno gan chwarren y thyroid cyn cael ei ryddhau i'r corff fel hormonau.

I egluro'n fwy manwl y defnydd yma o radio-isotopau gadewch i ni ystyriad y cemegyn a ddefnyddiwyd fwyaf yn nyddiau cynnar meddygaeth niwclear - ffurf ymbelydrol o iodin (I), sef radio-iodin.

Gall dogn uchel o belydriad niweidio, a lladd, celleoedd, a chan fod canran sylweddol o'r radio-iodin yn ymgasglu yn y thyroid, celloedd y thyroid a gaiff eu heffeithio fwyaf gan y pelydrau.

Trwy fesur canran yr iodin ymbelydrol a amsugnwyd gan y thyroid gellir amcangyfrif effeithlonrwydd y chwarren.

Caiff y mwyafrif o'r iodin sy'n bresennol yn y corff ei fetaboleiddio gan chwarren y thyroid.