Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ionawr

ionawr

Ionawr 1997 Meddianwyd Swyddfa'r Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd -- William Hague -- yng Ngogledd Lloegr i brotestio'n erbyn rheolaeth ar Gymru o Loegr.

Mae Theatr Gorllewin Morgannwg yn bwriadu teithio dwy sioe rhwng Ionawr ac Ebrill.

Yn ystod Ionawr hefyd, fe sychwyd tanciau olew mewn cerbydau ac mewn cartrefi.

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Penwythnos Addysg Wleidyddol yr wythnos hon (Ionawr 15-17) fel rhan o'i pharatoadau ar gyfer dyfodiad y Cynulliad.

Gochelwch wanwyn yn Ionawr - bydd Mawrth yn genfigennus.

Cafodd Coleman ddamwain car difrifol ym mis Ionawr.

Taranau yn Ionawr, blwyddyn wlyb.

Gan barhau âr thema gerddorol, darlledwyd Songs of Praise cyntaf y mileniwm newydd o Gaerdydd, lle daeth 72,500 o bobl o bob cwr o Brydain i'r stadiwm ar 2 Ionawr.

Eira trwchus drwy Gymru ddechrau Ionawr.

Ers mis Ionawr, mae gan yr heddlu alluoedd mwy eang nag erioed i gymryd pobl i'r ddalfa, ac i'w cadw yno, i'w chwilio, i'w holi, ac i'w cyhuddo.

Ymddangosai pamffledyn Ieuan Gwynedd fel amddiffyniad wedi ei amseru'n berffaith i ateb ymosodiadau'r Dirprwywyr ar gymeriad y Cymry: 'Pe buasai yr Awdur yn gwybod pob gair a gynwysai yn adroddiad y Dirprwywyr', meddai'r Diwygiwr ym mis Ionawr, 'ni ysgrifenasai well ateb i'w cabldraethau ar wlad ei enedigaeth.

Symudodd y plant i'r dosbarth newydd ym mis Ionawr.

Ymgasglodd bron i 200 o bobl ar strydoedd Caerdydd dydd Sadwrn (Ionawr 6ed 2001) i brotestio dros Ddeddf Iaith Newydd a'r diffyg Cymraeg ar strydoedd trefi a dinasoedd Cymru.

Bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â Rhodri Morgan yn Transport House, Caerdydd am 3 o'r gloch Dydd Gwener Ionawr 29ain.

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi disgrifio'r cyfarfod fu rhyngddynt a'r Ysgrifennydd Gwladol Alun Michael ddoe (Dydd Mercher Ionawr 6ed) fel un adeiladol.

Dilynwyd gorchest OBrien gan Awstraliad arall, Erica Roe a ddadorchuddiodd ei bronnau 41 modfedd i'r byd yn Ionawr 1984 yn ystod gêm rhwng Awstralia a Lloegr yn Nhwickenham eto.

Pan fo Ionawr oeraf y ceir y flwyddyn ffrwythlonnaf.

Penderfynwyd gohirio rhannu gweddill yr arian tan Ionawr.

Mae Huw Lewis, Heledd Gwyndaf, Danny Grehan a Ffred Ffransis yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â threfn cyhoeddus am eu rhan yn y brotest Deddf Iaith Newydd yng Nghaerdydd ar Ionawr y 6ed.

Roedd fy nhad yn digwydd trafod y tywydd gyda fo ar fore rhewllyd yn Ionawr.

Ar 15 Ionawr 1996 cyhoeddodd y Bwrdd ganlyniadau arolwg cynhwysfawr o agweddau'r cyhoedd tuag at yr iaith Gymraeg.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol 1 Ionawr, y pensiynau cyntaf yn cael eu talu i bobl dros 70 oed.

Bu terfysgoedd o amgylch Trimsaran ym mis Ionawr, gyda'r glowyr yn gwrthdaro â'r heddlu.

Torrwyd ein lawntiau ni am y tro cyntaf ar yr ail ar bymtheg o Ionawr eleni, eilwaith ar y dydd olaf o'r mis, dim unwaith yn ystod mis Chwefror, ni bu tyfiant yn ystod y mis hwnnw, ac yna ar y seithfed ar hugain o Fawrth.

Mae tri aelod amlwg o Blaid Cymru wedi anfon negeseuon o gefnogaeth i Rali Ddeddf Iaith sy'n cael ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Maes Parcio'r Queen's Blaenau Ffestiniog am 2 o'r gloch Dydd Llun Ionawr 3ydd.

Ar 21 Ionawr 2000, cafodd y Prif Ysgrifennydd Alun Michael gyfarfyddiad gynta'r ganrif newydd gydag aelodau Cymdeithas yr Iaith.

Porfa las yn Ionawr, bydd bwyd yn brin yn yr haf.

Hedfanais o faes awyr Heathrow ar ddiwrnod oer diflas yn Ionawr, a hanner dydd yn ddiweddarach, glaniais yn heulwen danbaid maes awyr Cape Town.

Cynhelir y Rali ym Maes Parcio'r Queen's Blaenau Ffestiniog am 2 o'r gloch Dydd Llun Ionawr 3ydd 2000.

Am 2.30pm ddydd Iau, Ionawr 18ed, bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith yn cyfarfod a Jane Davidson A.C. (Ysgrifennydd Addysg y Cynulliad) yn adeiladau'r Cynulliad yng Nghaerdydd.

Wedi i Alun Michael deithio o Bennal i Fachynlleth ddydd Gwener, Ionawr 21, bydd yn cael ei gyflwyno â dogfen yn dwyn y teitl 'Ail lythyr Pennal'.

Ers ei lansio ym mis Ionawr, mae Station Road eisoes wedi denu dilynwyr ffyddlon.

Bydd tîm saith bob ochr Cymru yn cystadlu yn rowndiau terfynol cwpan y byd yn yr Ariannin fis Ionawr ar ôl ennill cystadleuaeth Heidleberg ddoe.

Cychwyn S4C. Eira trwchus drwy Gymru ddechrau Ionawr. Diweithdra yn cyrraedd 3 miliwn. Roy Jenkins yn ennill is-etholiad Hillhead, llwyddiant seneddol cyntaf yr SDP.

Fe ddechreuodd pethau'n addawol ym mis Ionawr, pan laniodd Buck Rogers gan Feeder yn rhif pump yn siart y senglau.

Ar ddydd Llun, 3 Ionawr 2000, daeth 60 o bobl at faes parcio y Queens yn y Blaenau.

Ond pan fydd llygedyn o haul isel Ionawr yn ceisio euro llwydni'r tir, ac yn goleuo paent coch y fflôt fach wrth iddi drotio i lawr ar sbîd y cerrynt...

"Mae hi'n ddydd Iau yr wythfed o Ionawr yfory," cyhoeddodd.

Ionawr gwyn, haf poeth.

Ychwanegodd iddo gael ei syfrdanu gan yr ymateb i hysbyseb a roddodd mewn papur lleol a'i fod yn hapus iawn gyda faint ddaeth i'r cyfarfod cyntaf yn Ionawr a'r ymateb anhygoel a gafwyd ar gyfer noson Gwyl Dewi.

Mae dechra Ionawr fel hyn gystal amser â'r un i mi ddwysfyfyrio dros fy ngwendida yn hyn o beth; achos rydwi'n dal i wegian dan bwysau'r Roses yna fu'n tyfu arna i dros y Dolig.

Haf yn Ionawr, gaeaf yn yr haf.

Mae rhywbeth yn wyrdroedig yn y peth: nid perfert fel yr hen ddyn budr, ond merch gall yn ei hoed a'i hamser yn prynu papur 'Dolig ym mis Medi neu'n waeth byth, yn rhuthro am sêls ddechrau ionawr i brynu anrhegion at y 'Dolig nesa'.

Ond llusgo braidd ar ol mae'r gwres a'r oerni, a diwedd Gorffennaf yw'r amser cynhesaf, a diwedd Ionawr yw'r amser oeraf.

1 Ionawr, y pensiynau cyntaf yn cael eu talu i bobl dros 70 oed.

Yn Ebrill dim ond 1.8% o lowyr Cymru a oedd yn ddi-waith; cododd y ffigwr i 28.5% erbyn Ionawr 1925.

Y cwbl sy raid iddyn nhw eu wneud yw canolbwyntio ar guro'r Saracens heno a churo Ulster pan ddôn nhw yma ym mis Ionawr.

Y diwrnod wedyn, dydd Sadwrn y cyntaf o Ionawr yn Amwythig, cyfarfu'r Rhyddfrydwyr.

Cynhaliwyd gala elusennol hefyd er budd apêl yr Ysbyty Plant yng Nghymru ym mis Ionawr 2000.

Ym mis Ionawr Lloyd George yn cael ei ddyrchafu'n Iarll ond yn marw yn 82 oed ym mis Mawrth.

Yn Ionawr y gwelais i e.

Yn ystod Ionawr eleni daeth cnwd ar gnwd o eira gyda haen ar haen o rew.

Ar y nos Sadwrn (Ionawr 16), bydd Twm Morys ac Iwan Llwyd yn cynnal noson o adloniant, 'Cadw Swn', yn y Cwellyn Arms, Rhyd-ddu.

Dyna'r neges ar y posteri wrth i ddau gant o brotestwyr aros am y Cynghorwyr y tu allan i Gyngor Sir Gaerfyrddin fore Llun 31 Ionawr.

Mae gwyddau Gþyl Fartin yn broffwydi'r gaeaf (eu plu yn drwchus yn arwydd o aeaf caled.) Glaw canol Tachwedd, barrug trwm ganol Ionawr.

Erbyn hyn mae gwasanaethau'r plygain yn cael eu cynnal fin nos rhwng canol Rhagfyr a chanol Ionawr, y arbennig yng ngogledd yr hen Sir Drefaldwyn.

Cyrhaeddod Diane Gwmderi yn Ionawr 1998 ar ôl i Emma gyhuddo Reg o'i chyffwrdd mewn pwll nofio.

'Roedd y ffugenw yn arwyddocaol: Ianws oedd Ionawr, duw dau-wyneb y Rhufeiniaid, ond Mawrth y ddwy Gymru ac Awst y ddau fardd oedd arwyddocâd y ffugenw.

Dyna beth fydd Jean Chretien, prif weinidog newydd Canada, yn ei wneud ym mis Ionawr pan fydd senedd y wlad honno yn ail-ymgynnull yn Ottawa wedi'r etholiad ym mis Hydref.

Darlledir y rhaglen ym mis Ionawr.

Mae'r misoedd Ionawr, Chwefror a dechrau Mawrth yn cyd-daro â gwyliau'r haf.

Sawl gwaith y clywais i hyn gael un o aelodau staff Cymdeithas yr Iaith (wel, yr unig aelod arall o'r staff a dweud y gwir), cyn i ni fentro i Bentre Ifan ar gyfer y Penwythnos Addysg Wleidyddol ym mis Ionawr.

Gorffennaf poeth iawn, Ionawr oer iawn.

Mae Abertawe ar dân a'r unig siom yw fod y gemau Cwpan Heineken drosodd tan Ionawr.

Hydref oer, Ionawr tyner.

Bydd raid i Ponty edrych tua'r gemau sydd i ddod ym mis Ionawr.

Daeth dros 120 o bobl ynghyd i'r cyfarfod cyntaf fis Ionawr - a phawb yn cydweld ei bod yn hen bryd cael sefydliad o'r fath yma.