Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

irac

irac

Methais â chael visa i ddychwelyd i Saudi Arabia lle bu+m am chwech wythnos ar ôl i Irac oresgyn Kuwait.

Roedd yn llythrennol yn rhoi ei droed ar awyren a fyddai'n ei gludo ar daith rygbi i'r Unol Daleithiau pan alwyd arno i fynd i Irac.

Prin iawn yw'r gwylwyr a allai wahaniaethu rhwng milwyr Irac a milwyr Syria pan fyddan nhw yn llechu yn y tywod.

Roedd ei deulu'n arfer byw ar y ffin rhwng Iran ac Irac ond mae'n ofni eu bod erbyn hyn wedi gorfod ffoi am eu bywydau.

O'r hyn a welais i yng ngogledd Irac, er hynny, defnyddio'u sgiliau, eu cryfder corfforol a'u hyfforddiant didostur i wneud gwaith dyngarol yr oeddent - a'i wneud yn dda.

Yr uchafbwynt i mi, mae'n debyg, oedd y cyfnod rai wythnosau ar ôl y rhyfel pan gefais groesi Twrci i Ogledd Irac i ddilyn tynged y Cwrdiaid.

Ym mis Mai eleni, hedfanodd Aled i Iran i dynnu lluniau'r Cwrdiaid oedd yn llifo allan o Irac, o afael erlyn di-drugaredd Saddam Hussein.

Anghofia' i fyth weld marines ifanc oedd newydd dreulio misoedd yn denu dirmyg y cymunedau cenedlaetholgar yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu croesawu fel arwyr ar strydoedd Zacco a threfi eraill gogledd Irac.

Un datganiad ysgytwol a wnaed gan filwr ifanc o Lerpwl oedd yr hoffai ochri gyda'r Cwrdiaid i roi `cweir' i fyddin Irac yn yr un modd ag yr hoffai ochri gyda'r `Protestaniaid' yng Ngogledd Iwerddon i roi cweir i'r `Pabyddion'.