Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

iraidd

iraidd

Byddaf yn rhyfeddu þ a diau fod pawb arall a'i gwêl yn rhyfeddu yn yr un modd þ fel y tyf tyfiant iraidd y gwanwyn allan o'r marwor du.

Mi wn bod yn rhaid cael glaw i gadw'r planhigion yn iraidd a'r ffrydoedd yn risialaidd, ond carwn weld y glaw yn disgyn yn oriau'r nos.

Gwyrdd plaen unlliw yw eu lindys hwy, yr unlliw ynhollol â'r dail a'u cynhaliant ac yn hoff o swatio ar brif wythiennau'r dail ac yn y cnewyllyn gan wledda ar y dail ifanc iraidd sydd yn y fan honno a difetha'r blagur tyfu (growing point) hefyd a thrwy hynny rwystro cynnydd y planhigyn.

Parhaodd ei feddwl a'i gof yn iraidd hyd y diwedd, a daliodd i daro'i deipiadur bach â'i fysedd diwyd, gan lunio ambell englyn a chân, neu bwt o lythyr cynnes i'w ffrindiau.

Rhwng y cwt mochyn a'r gors mae boncyff un o'r coed llwyfen gafodd eu cwympo, ac y mae brigau bach newydd iraidd wedi tyfu o'i ochrau yn deilio bob blwyddyn.