Aiff y ddwy, y naill i Gwm Irfon a'r llall i Gwm Elan, â chi i olwg sawl lle o ddiddordeb hanesyddol neu chwedlonol.
Braidd yn anarferol ar achlysuron fel hyn, trefnwyd oedfa fore ar y dydd Mercher gyda D. J. Roberts (Aberteifi ar ôl hynny) yn cymryd y rhannau arweiniol ac Irfon Gwyn Jones, brawd y darpar-weinidog, yn traddodi'r Siars i'r Eglwys.
I lawr wrth yr afon gyferbyn â'r ogof mae Cam Lewsyn, dan bentan o graig, un o bobtu'r afon lle y gallai'r herwr lamu dros Irfon i ffoi rhag ei elynion.
Ymhen rhyw filltir a hanner o Abergwesyn cyrraedd unigedd Cwm Irfon; Craig Irfon i fyny ar y dde ac afon Irfon islaw ar y chwith.
Myn rhai bod ogof a fu'n lloches iddo ynghudd rywle yng Nghraig Irfon a bod rhywun wedi darganfod olion lludw o'i dân wrth gloddio yng ngenau'r ogof.
Daethpwyd o hyd i gyrff y ddau frawd gyda'i gilydd ger y ffynnon wrth odre Craig Irfon a dyna sut y cafodd yr enw Ffynnon y Brodyr.