Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

iselder

iselder

Heb driniaeth (sef dognau beunyddiol o cortison, neu gyffur tebyg) ceir llesgedd a nychdod, ansefydlogrwydd emosiynol, difaterwch ac iselder ysbryd.

Heddiw, bydd cysgod iselder yn treiddio trwy ddrysau caeedig a moethus ein profiadau maestrefol Cymreig.

Pan ddaw'r glaw eto i yrru i lawr drwy'r bwlch, neu pan ddaw'r niwl drachefn i or-doi'r arlwy o brydferthwch sydd o'm cwmpas heddiw, fe'm hyrddir unwaith eto i bwll o iselder ac anobaith.

Mae sôn hefyd fod Gadaffi yn wrywgydiwr, ei fod yn hoffi gwisgo dillad menywod ac yn cael pyliau maith o iselder ysbryd.

Gadawyd fi'n unig eto ac yn nyfnderoedd iselder ysbryd.

Cristion yng Nghors Anobaith = fi fy hun mewn iselder ysbryd ac yn gwangalonni yn fy Nuw.

Go brin fod yna ddim byd mwy plagus i'r sawl sy'n dioddef o unigrwydd neu'r felan na chlywed eraill yn bloeddio chwerthin, na dim sy'n fwy tebygol o bwysleisio'r anniddigrwydd a'r iselder.

Yn ogystal, honnir ei fod yn dioddef cyfnodau maith o iselder ysbryd ac yn crwydro coridorau'r barics yn siarad â'i hunan.

Ar ôl cyfnod o iselder penderfynodd mai'r ffordd orau i ddelio gyda'r sefyllfa oedd trwy fod yn ôl ynghanol y pentre a phrynodd siâr yn y siop gyda Denzil.

Y mae hwn yn gyflwr difrifol a hynod o annymunol sy'n achosi gwres uchel iawn a gwendid llethol ynghyd ag iselder ysbryd.

Ar ôl clywed fod meddygon yn swydd Efrog yn presgreibio llyfrau i gleifion syn dioddef o iselder a stres y cwestiwn y maen rhaid i rywun ei ofyn yw pa lyfr Cymraeg fyddai rhywun yn ei gymryd yn ller tabledi bach syn cael eu cynnig fel rheol.

Clywir anogaeth, er gwaethaf duwch iselder, i ddal ati, i geisio cymorth cyfaill, ac i gofio'n fwy na dim, bod pawb yn brifo weithiau.

Pwy, wedyn, oedd yr ymgeisydd am uchel swydd yng ngwleidyddiaeth Prydain a newidiodd yn sydyn o gael pwl o iselder ysbryd i gyflwr o orfoledd annormal ac ynni annaturiol?

Weithiau gall dognau helaethach achosi iselder ysbryd, llesgedd a pharanoia mewn rhai unigolion rhagdueddol.

Drysodd yn llwyr a disgyn i'r iselder mwyaf gwaelodol a chadw'i gwely am rai dyddiau, Janet yn ei thendio a merched, plant a rhai o ddynion y Teulu'n galw i ddangos eu gofal.