Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ista

ista

pump ar hugain o blant yn 'ista ar bob modfedd o'r llawr, i weld 'Lone Ranger'.

'Mi wahodda i o i ista hefo ni.

"Dowch i ista i gael paned" clywn Menna'n fy annog i'w ymyl, 'Dydach chi ddim wedi cyfarfod Deilwen."

Saethais ddau gwestiwn ato: 'Be goblyn wyt ti'n neud yn ista'n fan 'na?

Dowch i ista fan'ma, i ni gael sgwrs, tra bydd yr actorion yn cael eu traed danyn'." Cawsom ddwy gadair esmwyth yn ddigon pell o'r llwyfan, ond dal i sibrwd a wnaethom.