Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

iti

iti

Rhaid iti wâdd rhywun i swpar os wyt ti am gwmni.

Oes raid iti neud bob blwyddyn?' gofynnodd Robin, ei wrychyn yn codi wrth weld rhai o'i oriau hamdden prin yn cael eu dwyn oddi wrtho eto.

Does dim angen iti grio.

Dyma iti wats, rho hi am dy arddwrn,' ac er mawr syndod i'r bachgen taflodd wats arddwrn hardd ar y gwely.

A dyma gatrawd o filwyr - dim ond iti eu taro â'r wialen hud 'ma, fe ymladdan nhw fel milwyr byw.'

Ac i ble'r wyt ti'n mynd rwan?' 'Yr ydw i wedi cael gwahoddiad i dy Emrys i de.' 'Gad imi roi un gair o gyngor iti cyn iti fynd yno.' Edrychai'r Golygydd yn ddifrifol iawn.

"Dwyt ti ddim ffit, rhaid iti gael o leiaf wythnos arall cyn y byddi di'n ddigon da i fynd i'r ysgol." "Nid dyna oeddwn i'n feddwl Mam," atebodd Alun yn dawel.

cwch sy'n mynd o'i ran ei hunan ond sydd bob amser yn dod 'nôl, ond iti alw arno...

Does dim angen iti i roi o mewn geiriau.

Tra oedd yn cerdded fel hyn, ei meddwl yn bell oddi wrth y bobl o'i hamgylch, agorodd merch ffenestr llofft tŷ cyfagos a galw allan, "Pamela, be wnei di yma?" Trodd Pamela i weld pwy oedd yno ac meddai'r ferch wrthi drachefn, "Rown i'n meddwl amdanat ti ychydig eiliadau cyn iti ddod i'r stryd.

"'Fyddi di ddim yn teimlo weithia y buasai'n dda gen ti petasai Rhagluniaeth wedi gadael llonydd iti yn dy stad gyntefig - i fwynhau dy hun wrth dy gynffon ar frigau'r coed?" "Cynffon!

Rhannu Gwallt y Proffwyd Tithau, fab dyn, cymer iti gleddyf llym a'i ddefnyddio fel ellyn barbwr i eillio dy ben a'th farf, ac yna cymer gloriannau a rhannu'r gwallt.

Mae pobol fel Anti Lw'r misus acw yn dal i fyw neu bydd pawb o'u cwmpas yn barod i'w claddu." "Beth mae'r greadures wedi'i wneud iti?

Mi faswn i'n proffwydo bod iti ddyfodol disglair - hefo'r Rechabiaid, ond nid yn swyddfa'r Gwyliwr.' Prysurodd Dan i egluro.

"Wedi cael gormod o haul mae of iti," meddai hithau.

Na wir, mynd sydd ora iti þ at rai tebycach i ti dy hun.

Rhoddaf rwymau amdanat fel na elli droi o'r naill ochr i'r llall nes iti orffen dyddiau dy warchae.

"Fydd dim rhaid iti wneud dim byd ond chwarae'r piano imi!" meddai Towyn wrthi.

Yr wyf wedi pennu ar dy gyfer yr un nifer o ddyddiau ag o flynyddoedd eu pechod, sef tri chant naw deg o ddyddiau, iti gario pechod tŷ Israel.

'Meic, rwy eisiau iti fy helpu i gysylltu â'r Serosiaid.

Ac mae'n amser iti gael gwybod Pitar, nad wyt ti'n ddim on niwsans wedi hanner ei berffeithio, a gwylia rhag i dy gysgod dy fychanu'.

Yn awr, fab dyn, gwrando ar yr hyn a ddywedaf wrthyt, a phaid â gwrthryfela fel y tylwyth gwrthryfelgar hwn; agor dy geg a bwyta'r hyn yr wyf yn ei roi iti.

Rhaid iti ddygymod â hynny.

Ceraist y byd fel y bu iti roi dy uniganedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo Ef ond caffael ohono fywyd tragwyddol.

Mewn un peth yn unig y ceir digonedd yn y byd hwn, a chyflwynwyd hwnnw inni mewn darn o adnod: Digon iti fy ngras i.'

Rydw i wedi penderfynu bod yn rhaid iti aros yn yr ysgol a sefyll yr arholiad.

"Waeth iti garreg na thwll" - S.

Wedi iti orffen hyn, gorwedd ar dy ochr dde, a charia bechod tŷ Jwda; yr wyf wedi pennu ar dy gyfer ddeugain o ddyddiau, sef diwrnod am bob blwyddyn.

Pwy ddaru ateb y drws iti i lawr y grisia 'na?' 'Dyn bach â chrwb ar 'i gefn o.' 'Wmffra Jones.

Yna dywedodd wrthyf, Edrych, fe ganiatâf iti ddefnyddio tail gwartheg yn lle carthion dyn i grasu dy fara.

Mi hoffwn i fedru gofyn iti ddod acw ond dydi Megan ddim yn rhy dda'r dyddiau hyn, fel gwyddost ti." "Doeddwn i ddim yn disgwl y fath beth." "Fydd hi ddim mor hawdd dod i dy weld ti yn Lloegr ond mi fydda i'n hapusach o wybod dy fod ti'n câl gofal a thitha wedi bod yn cwyno cymaint yn ddiweddar.

Mae arnaf i eisio iti gael crefft.' 'Mi faswn i'n leicio bod yn saer ym Mhenmaenmawr' Roedd yna siop saer fawr pryd hynny yn perthyn i Hugh Williams, ac fe aeth Mam ato i holi a oedd ganddo le i brentis.

Be 'di'r iws iti l'nhau dy ddannadd mewn rhyw fynwant o le fel acw na weldi neb ond Betsan Tyrchwr a'i thebyg o un pen blwyddyn i'r llall?

A Begw wrth ei weld yn wag yn dweud, 'Rhaid iti wario llai, Rondol' 'Hmmmm', meddai Rondol, 'tinddu meddai'r fran wrth y wylan'.

Waeth iti ddwad hefo mi ddim.'

Agorais fy ngheg, a rhoddodd imi'r sgrôl i'w bwyta, a dweud wrthyf, Fab dyn, bwyda dy hun a llanw dy fol â'r sgrôl hon yr wyf yn ei rhoi iti.

'Rheswm arall dros iti fod yn ddiolchgar.

Mae 'na waith peintio a phapuro iti,' meddai Mali yn bryfoclyd.

Ac am smocio, 'waeth iti ladd rywun un blewyn yn y byd." Ail-oleuodd fy nghyfaill Williams ei bibell, a adawsai i ddiffodd yn nwyster ei deimladau.

Fydd dim rhaid iti fod allan fawr ddim felly." Ddwyawr yn ddiweddarach eisteddai'r ddau yn swyddfa hynafol Huw Jenkins.

Byddwn yn treulio llawer o amser yn nhy fy nain.Dywedodd hi rywbeth syfrdanol wrthyf flynyddoedd ynghynt wrth fy nghymell i fwyta 'Bwyta di ddigon y ngwas i' meddai 'i ti gael cefn cry; fydd dy dad ddim yn fyw yn hir iawn eto, ac mi fydd yn rhaid iti helpu dy fam' Cawsai fy Nhad lwch ar ei frest ac 'roedd yn ddifrifol o fyglyd.

"Mae gynno fo gwestiwn i'w ofyn iti." "Oes," ategodd Snowt.

'Rwyt ti'n fachgen da iawn,' meddai, 'wedi gwneud popeth y gofynnais iti ei wneud.

Cymer iti wenith a haidd, ffa a phys, miled a cheirch, a'u rhoi mewn un llestr, a gwna fara ohonynt; byddi'n ei fwyta yn ystod y tri chant naw deg o ddyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.