Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

iwerydd

iwerydd

Yna byddai'r trueiniaid yn cael eu cludo dan amodau dychrynllyd ar draws yr Iwerydd i'w gwerthu am grocbris mewn marchnadoedd megis Havanna a New Orleans.

Mae Lowri a'i gŵr Geoff yn byw yno ers rhai blynyddoedd bellach, ac nid yw Mrs Evans yn meddwl dim o hedfan dros For yr Iwerydd i'w gweld o leiaf unwaith y flwyddyn, tra y byddant hwythau yn dod draw yma bob yn ail.

Ond er bod y briodas yr ochor arall i Fôr Iwerydd, doedd pobol Y Mwmbwls ddim am gael eu anghofio chwaith ac mi fuon nhw hefyd yn dathlu priodas un o'u merched enwaoca.

Nid yw hi'n son am gampau'r ci yr ochr hon i'r Iwerydd.

Deuthum o dan fy maich dirgel o boen yn ara' deg dros foroedd anwadal i Dde'r Iwerydd, mewn bad anferth a oedd yn ysbyty gloyw, nes cyr'aeddyd cyrrau moel a gerwin yr ynysoedd amddifad .

Erbyn cyrraedd y Foryd roedd wedi cynefino â'r heli - ac am bedwar tymor bu'n pesgi ar larder fras yr Iwerydd.

Dyma'r tro cyntaf i ferch hedfan ar draws yr Iwerydd.

Yn ôl traddodiad, teithiodd San Ffraid yn wyrthiol dros Fôr Iwerydd ar ddarn o dywarchen.

Ond, ac yntau'n un o dras amaethyddol ac, o ran anian, yn gredwr mewn datblygiad a chynnydd, mae ei adroddiadau hefyd yn taflu goleuni ar America'r wlad fawr, flaengar, gyda'i diwydiannau cotwm ac olew, ei ffatri%oedd caws a'i bwydydd anghyfarwydd; roedd hefyd yn anelu at roi gwybod i'r Cymry gartre' am fywyd eu cyd-wladwyr a ymfudodd tros yr Iwerydd.

Alun yn sbeitlyd ac yn awgrymu y byddai'i chwaer yn sicr o ffendio rhamant newydd yn Ne'r Iwerydd.

Y lluniau teledu byw cyntaf yn cael eu trosglwyddo ar draws yr Iwerydd drwy ddefnyddio'r lloeren 'Telstar'.

Craig o ithfaen caled yn dal ei thir yn nannedd tonnau Môr Iwerydd yw Llydaw.

Edrych dros wastadedd gwyn yr eira, gyda'i glytiau o goed pin a bedw arian, a sylweddoli fod tir yn ymestyn yn ddi- dor oddi yma i'r Arctig, y Môr Tawel, a'r Iwerydd.

Roedd rwan wedi dod i Swydd Mayo, a doedd dim posib mynd yn bellach heb fynd i Fôr Iwerydd.

Achlysuron o bwys heb os, ac yn sicr o ddiddordeb mawr i wylwyr yr ochr yma i Fôr Iwerydd.

Roedd Mynydd Mwyn yn rhoi iddo gartref a sicrwydd a'r wlad o gwmpas yn cynnig amrywiaeth di-ail o olygfeydd: tiroedd gwastad Môn, wybren lawn golau, mynyddoedd a môr, y cyfan yn newid yn gyson i gyfeiliant y ffryntiau tywydd a sgubai drosodd o'r Iwerydd.

Moel iawn oedd y tir ond roedd yno lewyrch fel petai tonnau fyrdd yr Iwerydd i gyd yn adlewyrchu haelioni'r haul ar yr ynys fach.

Marconi yn llwyddo i anfon neges radio ar draws Môr yr Iwerydd.

A'r coed a'r gwrychoedd yn goch a melyn: canmil, canmil harddach na'r hydrefau yr ochr hyn i'r Iwerydd.

Wrth rwydo'n rheolaidd efo rhwyd fân, mewn gwahanol ddyfnderoedd wrth hwylio ar draws yr Iwerydd, gwnaeth siart yn dangos hyd y llysywod bach a ddelid.

Fuasai neb yn meddwl, wrth eu gweld yn eu mwynhau eu hunain, fod haint o ddioddef a marw yn Ne'r Iwerydd.