Er enghraifft meddyliwch am ddau lawchwith ymlaen; wedi i un fod yn tyllu am sbel a'r llall yn troi'r ebill a rhoi dwr, maent yn penderfynu newid drosodd, wel gan fod y ddau yn llawchwith, mae'n rhaid newid lle ar y platform er mwyn i'r dyn sy'n taro fod yn ddethau, ond petai o'n medru iwsio'i law dde ni fuasai angen newid lle.
Dylaswn fod wedi dweud eu bod yn gorfod iwsio dwr hefo'r tyllu yma er mwyn cadw'r ebill rhag poethi.
"Dew," meddai Twm, "mi ddaru chi iwsio petrol."