'Fireball,' darllenodd Jabas yn uchel i'w helpu.
Roedd Jabas wrthi'n brysur yn tynnu lluniau, a chyda'r lens sbienddrychol diweddara a gafodd gan Ab Iorwerth credai ei fod yn cael lluniau gwych o hen simne'r gwaith yn syth uwchben yr ogof ar y clogwyn.
Gobeithiai Jabas yn fawr na fyddai'n gwneud camgymeriad gan y byddai un gwyriad o'r sianel gul yn golygu rhwygo ochr y cwch yn grybibion.
Agorodd Jabas yr injan a dweud wrth Gwil am lywio am y lanfa.
"Tyrd efo ni, Jabi boi, i sodro'r uffar bach." Roedd gan Jabas gywilydd mawr o'i dad meddw.
Tynnodd Jabas lun arall cyn clymu'r cwch wrth hen fodrwy haearn rydlyd.
Er siom i Jabas, dychwelodd ei dad a'i ddau ffrind i'w gwaseidd-dra arferol pan gynigiwyd cwrw iddynt.
Trodd stumog Jabas wrth glywed ei dad yn syrio a chowtowio i un oedd wedi dwyn ei le angori.
Gadawodd Jabas ei dad yn y Sailing.
"Mi awn ni i'r Sailing yn gynta a holi pwy 'di mistar y ....." Roedd Wil Pennog yn cael trafferth i ddarllen yr enw ar fow y cwch ac ni allai Jabas benderfynu ai twpdra ynteu'r cwrw oedd yn gyfrifol.
Gwnaeth Jabas yn fawr o'i gyfle gan fod y mor yn hollol lonydd o hyd ac yn agos i ben llanw.
Ond roedd pethau pwysicach ar feddwl Jabas.
Cyn pen chwarter awr arall o fyfyrio ar y groes o gyswllt gytbwys accenog yn nodiadau sych Wali, roedd Jabas hefyd yn chwyrnu'n braf.
Yn eu mysg gwelodd Jabas Dr Braithwaite a Sharon yn eistedd ar stoliau uchel wrth y bar.
Gobaith Jabas oedd y byddai'r camera'n profi cryn dipyn o bethau.
Dilynodd Jabas y tri o hirbell i gyfeiriad y Sailing.
Roedd gan Jabas yntau lond camera o luniau gwerthfawr.
Wrth iddo gyrraedd yn ôl i'r harbwr gwelodd Jabas fod y cwch cyflym yn dal wrth angorion y Wave of Life, ond suddodd calon Jabas wrth weld ei dad a dau o'i bartneriaid yfed yn rhefru ar ben wal y cei.
Aeth Jabas adref am ei de.
Doedd gan Jabas ddim dewis ond angori yng nghanol yr afon a benthyg cwch rhwyfo i gyrraedd wal y cei.
Oedodd Jabas yn y cyntedd a stagio trwy'r dorau gwydr.
Cymerodd Jabas ddau neu dri o luniau yn sydyn.
Ond roedd Jabas wedi gwneud un darganfyddiad pwysig.