Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

jest

jest

"Wnaethon ni jest beidio'i ddefnyddio fo yn Llanrwst.

'Ga'i weld un waith 'to - jest un waith - be sy yn y bocs at heno, mam?

Mi fuo jest i mi gael fy ngeni yn l.RA, ond trwy ryw drugaredd mi ddaeth fy mam i Benmaenmawr i roi genedigaeth imi.

Gofynnodd i mi a fuaswn yn fodlon dod yn ôl bore trannoeth i fynd dros y frawddeg gyda hi jest cyn iddi fynd i'r neuadd.

Jest o ran hwyl.

Ro'n i wedi bod yn gweithio ar fân jobsus tan o'n i'n wuth, naw ar hugain, a jest peintio.

Os gwrandwch chi yn astud mi ellwch jest glywed, yn y pellter, swn y Gorila Gwyllt, sef 'y mrawd mawr, hynod o siaradus, Gari.

Roedd pêl-droed Brazil yn codi rhywun i'r entrychion -- ....nid jest chwarae oedd yma ond celfyddyd yn rhoi mynegiant i'r ysbryd dynol ar ei orau, yn llawn llif dychymyg, creadigrwydd a llawenydd.

Jest siarad â mi fy hun.

'Ta waeth, ar y diwrnod arbennig yma, ddês i adre o'r ysgol - hwn ydi'n nhy fi, gyda llaw - 'Heulwal', Stad Bryn Glas - jest heibio'r groesffordd a chyn cyrraedd y groesfan zebra.

Yn yr oed yna dwyt ti ddim yn gallu dadansoddi rhyw lawer arnat ti dy hun, jest bod.

Jest dweud wrthot ti 'y mod i wedi cael 'y newis i dîm nofio'r ysgol.

Mae Robat newydd gysgu a dwi jest iawn â mynd hefyd.

'Ti isio bwyd?' 'Jest te.' 'Mi gei di jips a ffish hefyd rhag ofn i chdi udo'n bod ni wedi dy lwgu di.' Daeth y sglodion a'r sgodyn yn fôr o saim mewn papur newydd.