Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

jini

jini

Nhad yn chwilio a chwilio, yna "Lle dudoch chi ma' nghrys i Jini?" Mam yn cymryd pwffiad oddi ar y pwmp oedd ganddi i'w helpu anadlu cyn ateb, "Wel, yn yr 'airing cupboard' Charles".

Ond rhaid i ti gofio mai gwrachod yw Jini a Mini, a does dim llawer na allan nhw ddod o hyd iddo.'

Aeth Jini ymlaen i ddarllen: 'Peint o boeri jiraff, Tri phwys o saim gwydd...'

Roedd o'n syndod mawr i mi na allai Anti Jini glywed pob gair yn glir fel cloch hefyd, er ei bod hi wedi mynd yn drwm iawn ei chlyw yn ddiweddar.

Gwneler yr hylif Heb drafferth na ffwdan.' A dyma Jini'n ymuno yn y gytgan: 'O dewch, yr holl wrachod a chwithe ellyllon, I roddi eich bendith yn awr ar y moddion.'

"Be ydi mêc fy nghrys i Jini?" Mam druan yn atab "Dwfal", a medda nhad fel ergyd o wn - "Tydw i'n 'dwfalu' fama ers oriau!" Saib - nhad, mam, a ninnau'r plant yn sylweddoli beth oedd o wedi'i ddeud, a phawb fel côr adrodd 'Steddfod Genedlaethol yn chwerthin efo'n gilydd.

Y bora arbennig hwn, a'r tywydd yn oer, mam yn ei gwely efo 'asthma' a ninnau'r plant yn ein gwelyau, neu'n chwara'n y llofft, dyma lais nhad fel angel o waelod y grisiau (parch i mam am ei bod hi'n sâl) "Lle ma' nghrys i Jini?" mam yn ateb â gwich yn ei llais, "Yn yr 'airing cupboard' Charles." Nhad yn rhuthro i fyny'r grisiau, 'roedd yr 'airing cupboard' ar y landing, dros ffordd i lle'r oedd Mam yn cysgu.

'Alla i ddim gweld dim byd yn ddigri yn yr enw,' maentumiodd Jini.

Yr oedd fy stumog i'n dechrau troi, ac er mwyn rhoi taw ar Jini am ennyd, dywedais, 'Allwch chi ddim dod o hyd i eira llynedd, heb sôn am ei bwyso!

Mae o'r un lliw yn union â'r siocled hwnnw yr anghofiais bopeth amdano fo, Wedi ei gael o gan Anti Jini am ei helpu hi yn tŷ roeddwn i ar ôl imi ddianc yno un bore.

Stori am Aaron a Steph yn gofalu am Jini'r chinchilla.

'A beth yw hwnnw, grwt bach?' gofynnodd Jini'n ddirmygus.

'Roedd y walia mor dena, medda fo, "Pe byddai Mrs Rowlands drws nesa yn plicio nionod, y byddai Jini (Mam) yn crio%.

'Iddi gael gweld drosti ei hunan beth yw gorfod byw mewn caets brwnt,' ategodd Jini.

Yn lle yn yr airing cupboard ma'r crys Jini?" 'Roedd y llais angylaidd wedi mynd i ebargofiant erbyn hyn, 'roedd nhad o dan straen fawr i beidio gweiddi.

'O'r gore, rhaid i ni nawr fynd ymlaen â'n gwaith!' Rhoddodd Jini bwyslais ar y gair, ac aeth rhyw echryd drwof wrth weld yr olwg gas, ddialgar yn ei llygaid hi - a hefyd yn llygaid Mini a Martha Arabela.

Jini, Mini - dyna'ch gwaith chi.'

Y refferendwm, sgwâr Llangefni ar ôl ethol Keith Best yn 1979 a chyfarfod cyhoeddus i gefnogi Gwynfor yn ei safiad dros Sianel ydi rhai o'r 'profiadau mawr' cynta dwi'n cofio eu cael, a gan nad oedda ni yn deulu am fynd o steddfod i steddfod mae'n debyg mae steddfod Llangefni a champio yng ngardd gefn Anti Jini oedd un o'r cyfleoedd cynta ges i i ymaelodi.

Dim ond wedi picio i'r drws nesaf i gynnau'r tân er mwyn i'r gegin fod wedi cynhesu erbyn i Anti Jini Norman godi roedd hi; mae cryd-cymalau Anti Jini yn ddrwg yn y bore.

'Mae'r plant yn siarad tipyn o synnwyr, Jini a Mini,' meddai'r gath dwp gan ddechrau canu grwndi'n hapus.

'Gwaith anodd yw dewis - mae cymaint ohonyn nhw, Mini!' 'Gwir iawn, gwir iawn, Jini!' Dyma'r gath yn dechrau colli'i hamynedd.

Neu mi fyddwn ni yma drwy'r nos!' 'Rych chi'n dweud calon y gwir, eich mawrhydi,' a phlygodd Jini ei phen yn wasaidd i gyfeiriad y gath.

'Rhaid wir, rhaid wir, Mini!' 'Ond o pa un o'r trosedde, Jini?'

Dechreuodd Jini ddarllen, 'Cymerwch: Chwe owns o hylif o lys brogaid, Hanner pwys o afu tramp, Dau ddwsin o hadau dannedd ieir, Dwsin o wyau clwc, Tri phwys o eira llynedd, Hanner pwys o gaws o fola ci...'

'Rhaid i'r gosb ffitio'r drosedd, Jini.'

Dyma Jini yn mynd yn ddwfn i boced ei sgert ac yn tynnu allan lyfr bach, bach - y llyfr lleiaf a welais i erioed.

A dyma Jini yn dechrau rhestru'r troseddau unwaith eto - a'r rhestr yn feithach y tro hwn.