Fe wyddom oll am ddiddordeb Freud yn y chwedlau Thebaidd, yn enwedig yn hanes Oidipos, ac am ddiddordeb mwy cyffredinol Jung yn y maes.
Megis i Freud, y mae gwedd o rywioldeb ar bopeth bron i ddisgyblion Jung hefyd, ond yr oedd Layard, fel ei feistr, yn ymwybodol o'r ysbrydol a'r diwylliadol yn ogystal.
Mae Layard, fel Jung, yn pwysleisio agweddau deublyg, amwys pethau a phobl a chreaduriaid, yn gweld y ddrysien ddeuben a dyfodd ar fedd mam fiolegol Culhwch, Goleuddydd, fel arwydd o'r hyn yr oedd yn rhaid iddo ei wynebu ac ymgodymu ag ef wrth gychwyn ar ei bererindod at oedoliaeth.