Dywed Kamarin fod mudiad 'Kurdish Relief Wales' sydd â swyddfa yng Nghaerdydd, wedi bod yn ceisio helpu trwy anfon ysbytai teithiol i'w defnyddio gan y Cwrdiaid.
Wedi sawl blwyddyn yn y mynyddoedd fe benderfynodd ffoi o Cwrdistan, a gan fod ei frawd eisoes wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd fe ddaeth Kamarin, hefyd, i brifddinas Cymru.
Un sydd wedi gweld effeithiau creulondeb Saddam Husssein a'i filwyr â'i lygaid ei hun yw Cwrd ifanc - Kamarin - sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Gobaith Kamarin yw teithio i weld ei deulu unwaith eto yn yr haf.
Tra'n byw yn Cwrdistan roedd Kamarin yn un o'r rhai oedd yn gweithredu'n wleidyddol er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i Hussein.
'Bu bron i ni ennill,' meddai Kamarin.