Yn ôl Murry (a theg ychwanegu yn y fan hon nad yw bob amser yn glir ai aralleirio Keats ynteu datgan ei fam ei hun y mae) yr oedd cyswllt cyfrin rhwng y meddwl barddonol a'r ymwybod crefyddol.
Ymgais oedd Keats and Shakespeare i ymhelaethu ar y daliadau hyn am 'life- adjustment' a'u cymhwyso at waith un bardd, Keats.
Honnodd Murry iddo ganfod ym mywyd ac yn llythyrau Keats '...
Y bwriad yn y pen draw oedd olrhain '...' Cyfrol idiosyncratig yw hi; cymharol ychydig o sylw a roddir i gerddi Keats - fel y cyfryw?
Rhaid deall Keats and Shakespeare yn erbyn cefndir ehangach y ddadl lenyddol-grefyddol rhwng Murry a T.
Y bennod yr ymddiddorodd Peate fwyaf ynddi (a barnu wrth y dyfyniadau mynych a gododd ohoni yn ei waith diweddarach) oedd y ddegfed, 'Soul-Making', lle y ceisiodd Murry dreiddio i seiliau metaffisegol estheteg Keats.
a '...' Keats, ond cynhwysa hefyd y dyfyniad hwn gan Samuel Roberts: 'Yr wyf yn credu nad yw canonau na chredoau na thraddodiadau dynol yn meddu dim awdurdod ar ymarferiad Cristnogion.' Er nad yw'r geiriau ynddynt eu hunain yn ychwanegu dim at ddadl Peate mai ym mhrofiad yr unigolyn y mae chwilio am Dduw, ac er y gellid eu hystyried yn fawr mwy nag allweddeiriau hwylus i gael gwrandawiad yn uchel lys Annibynia, camgymeriad fyddai eu hanwybyddu.
Y mae'r llywodraeth yn gresynu nad yw plant yn cael eu gwreiddio'n effeithiol yn Shakespeare a Milton, Keats a Tennyson, Jane Austen a Dickens.
Cofiaf yn dda fel yr ymddangosai'r llyfrau amryliw tua diwedd y flwyddyn ym mhlith y rhai nas gwelid eto ar ôl gwyliau'r haf, ac fel y cafodd Islwyn a Keats ac Eifion Wyn a Fitzgerald ac Eben Fardd a Milton bawb eu sbel ym mhlith rhigymau llai anfarwol.
Wrth i'r olygfa ddod i'r golwg yn ffram y bwlch - yr Wyddfa a Moel Hebog a phenrhyn Llŷn, Ardudwy a Mochras a'r mor ac Enlli - dyfynnodd fy nhad o soned Keats: .
Ni ellir dylanwad heb apêl, a hawdd deall apêl gwrthrych fel Keats at ŵr ifanc pedair ar hugain oed a'i teimlai ei hun yn fardd ond na wyddai sut i'w ddisgyblu ei hun i greu gwaith cyson y gallai fod yn fodlon arno.