A oes yna le i gredu, felly, fod polisi%au rheoli galw Keynesaidd wedi ansefydlogi yn hytrach na sefydlogi'r economi Prydeinig yn y blynyddoedd wedi'r Ail Ryfel Byd?
Wedi'r cyfan yr oedd mwy nag un wlad arall, dros yr un cyfnod, wedi mwynhau'r un bendithion heb ddefnyddio y fframwaith Keynesaidd i lywio eu heconomi.
Cawn weld yn nes ymlaen mai'r esgeulustod hwn o gymhellion yr unigolyn, yn arbennig yn y farchnad lafur, yw un o'r prif gyhuddiadau a wnaed yn erbyn y dadansoddiad Keynesaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.