Os oes angen cadarnhad o ddiffyg apêl yr iaith Saesneg, mae i'w weld o'r trên wrth deithio ar ddydd Mawrth o Sha Tin i gyfeiriad Kowloon - baner fawr binc ar wal allanol ysgol uwchradd yn gorchymyn 'SPEAK
Ond i'r teithiwr busnes sy'n cyrraedd y maes awyr ac yn llogi tacsi er mwyn cyrraedd ei westy, llwyd a dilewyrch yw'r argraff gyntaf o'r drefedigaeth; heolydd penrhyn Kowloon rhwng y maes awyr a'r twnel i ynys Hong Kong yn dagfa drafffig fyglyd, fflatiau'r pumdegau a'r chwedegau yn salw o'u brig i'w bôn, ysbwriel o'r lloriau uwchben wedi disgyn yn bentyrrau pwdr ar y mân doeon sy'n cysgodi prysurdeb y stryd rhag bygythiad glaw tyrfau'r gwanwyn.