Bellach, dan ddylanwad Genefa, y mae wedi cefnu ar ddulliau rhydd Luther a Tyndale a welir yn Kynniver llith a ban ac amcanu at gyfieithu 'air yn ei gilydd' i'r diben, fel yr eglurodd mewn nodiad Saesneg yn y Llyfr Gweddi, 'i air Duw ei hun aros heb ei lygru na'i dreisio o genhedlaeth i genhedlaeth'.
A thystiolaeth sicrach i hyn fyddai gweithiau blynyddoedd cynnar William Salesbury, yn enwedig Kynniver llith a ban.