Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ladd

ladd

Pan fyddid yn sôn am ei gampau'n gwagio siopau o'u nwyddau oll byddai hithau'n dal dano'n dweud, 'Wel, ddaru o ladd neb, yn naddo?' A phan ddaru o ladd Huws Parsli am y tro cyntaf dyma hi i'r adwy eto: 'Toedd dda gen i mo'r hen gingroen afiach beth bynnag.

Cyn i fi dy ladd di.' 'W!

Yr ydym i gyd yn cydnabod hyn o berthynas i ladd damweiniol ac anfwriadol.

Yn eironig ddigon y barnwr yn yr achos hwn yw Baltasar Gozón, yr un barnwr yn gywir a ryddhaodd aelodau o'r mudiad GAL (terfysgwyr gwrth-ETA a ariannwyd gan lywodraeth Sbaen i ladd aelodau o ETA) ar ôl dim ond pum mlynedd o ddedfryd o 100 mlynedd.

Pont newydd Cleddau yn disgyn gan ladd pedwar o weithwyr.

Gwelwn ar unwaith hen frawd o'r enw Wil Owen Hen Dy yn dyfod ataf yn gweiddi a gweddio, ac fe ddywedodd wrthyf: 'Fachgen, yr oeddwn yn meddwl mai cyfeirio at dy dad yr oeddet,' (am fod ef wedi ei ladd mewn gwaith heb fod ymhell oddi yno).

Bu bron i Stan ladd Gareth Wyn tra'n yfed a gyrru.

Yn achlysurol, bydd wardeiniaid y parciau cenedlaethol yn rhai o wledydd Affrica yn cael eu gorfodi i ladd cannoedd o eliffantod er mwyn rheoli'r twf, a sicrhau bod digon o fwyd i gynnal y rheiny sy'n weddill.

'Roedd Rhian dan bwysau aruthrol a cheisiodd ladd ei hun wrth baratoi at yr arholiadau.

Dyma'r adeg addas i ladd chwyn lawnt hyn.

Hyd yn oed heddiw, gyda'r diwydiant glo Cymreig wedi ei ladd, dywed Hywel Teifi nad yw hyd yn oed yn awr yn rhy hwyr i wneud iawn am y diffyg hwn yng ngorffennol ein llenyddiaeth.

Er i'w dad gael ei ladd pan oedd Douglas Wardrop yn ddim ond pump oed, cofiai'r morwr yn glir sut yr oedd wedi dweud wrtho lawer gwaith pan oedd pethau'n mynd o chwith: "Dal ati, Doug, dal ati.

Y mae'n cyfeirio at Brif Weinidog a geisiodd ei ladd ei hun cyn mynd i'w swydd ac am un arall a oedd yn ddibynnol ar gyffuriau ac ar alcohol.

Cyhuddwyd ef o ladd 17 o ferched, un ohonynt o Abertawe.

Ond trwy wneud hyn caiff ei longyfarch ei hun ei fod yn foddion achub ei genedl rhag marwolaeth, tra ar yr un pryd yn ei brysur ladd ei hun fel gwir lenor.

Ni ddëallir pam nad yw eto wedi cael ei ffrwyno neu ei ladd yn dilyn y 'Dangerous Dogs Act'. Act I

A chododd hyn fymryn o eiddigedd yn ei fynwes ef rhag i rywun arall lwyddo i ladd Ap o'i flaen.

Hei lwc y gallwn ei ladd, neu ei ddal." Un diwrnod bu brwydr fawr yr yr awyr uwchben traethau Ffrainc.

yn dda i ddim ond i ladd ei hun yn rhedeg er mwyn i ti a Steve gael pres cwrw!' gwaeddodd Mam.

Os Casino oedd i'w godi, byddai gwaharddiad felly yn ei ladd cyn iddo ddechrau.

'Ffred,' cwynodd, 'Ffred druan sydd wedi cael ei ladd.

Roedd ei dad yn filwr ond cafodd ei ladd mewn brwydr.

"Gyda rhai o'r plant yma, does yna neb adref i'w disgwyl o'r ysgol felly maen nhw'n dod yma i ladd amser nes bydd eu rhieni wedi noswylio o'u gwaith," eglurwyd imi.

Yn ol un chwedl yr oedd Elen Luyddog yn teithio trwy Gwm Croesor pan ddaeth cennad ati a dweud wrthi fod mab iddi wedi cael ei ladd ger Castell Cidwm, Betws Garmon.

Y mae'r plu chweochrog yn rhan annatod o dymor yr hirlwm a diau y gwna'r eira lawer o les wrth ladd hadau anhwylderau mewn dyn ac anifail a thir.

O leiaf os yw ein diwylliant yn cael ei ladd, caiff ei ladd gan garedigrwydd.

Lee Harvey Oswald, a gyhuddwyd o ladd Kennedy, yn cael ei saethu gan Jack Ruby.

Wedi deor bydd larfa'r parasitoid yn bwydo ar y gwesteiwr ac, fel y crybwyllwyd eisoes, yn ei ladd.

'Be wyt ti'n feddwl o garcharu Vatilan druan am beidio trio dy ladd di 'ta?'

Byddai balchder hwnnw wedi dy ladd.

Arglwydd Mountbatten yn cael ei ladd gan yr IRA.

"Mawrth a ladd, Ebrill a fling..." Mynd â choffin gyda Edward Ifans heddiw i dyddyn bychan ar yr hewl i'r Glyn.

Gwnaent hefyd wenwyn o blanhigion, i ladd pryfetach ac anifeiliaid a fyddai'n dinistrio'r cnydau.

'Felly toedd Vatilan ddim isio dy ladd di, nagoedd, Gemp,' meddai Nel yn sgipio tuag ato fo ac yn rhoi ei braich am ei ysgwydd esgyrnog.

A phwy ohonom a ddymunai gael ei drin gan feddyg adnabyddus am ei ddawn i ladd cleifion?

Pobl unplyg, gweddigar, duwiol, yn mwmian emynau wrth ladd y gwair a chywain y cynhaeaf, yn cynnal y weddi deuluaidd bob bore wrth ford yr allor, gan dynnu Duw i lawr i'r ceginau rhwng y potiau a'r pedyll.

Pan welodd gwr Aberceinciau y dieithryn cyfoethog yn dod i'w gyfarfod fe ymosododd amo a'i ladd.

T.E. Lawrence ('Lawrence of Arabia') yn cael ei ladd mewn damwain â beic modur.

Erbyn heddiw cerddodd y Khmer Rouge Comiwnyddol i fewn i'r wlad brydferth hon ac ar ôl rhyfel erchyll o ladd ac ysbeilio creulon fe'i trowyd ganddynt hwy yn wlad gomiwnyddol a newidiwyd ei henw wedyn i Kampuchea.

Cyhoeddir nad oes neb yn deilwng i dorri'r seliau ac i ddatgelu cyfrinachau'r sgrol ond Iesu Grist a ddisgrifir ar un gwynt yn Llew o lwyth Jwda ac ar y llall yn Oen fel un wedi ei ladd.

Yn un o'r ysgarmesoedd hyn tybiwyd fod Geraint wedi'i ladd.

A hefyd, sioc gweld y peth yn cael ei ladd o flaen ein llygaid ni, oedd yr un peth.

Camgymeriadau Cristnogion, Mae'r Cristion yn berson arbennig iawn - Mae'n blentyn i Dduw; Mae ganddo galon newydd, ac ysbryd newydd o'i fewn; Mae'r hen ddyn wedi ei ladd, ac mae'n ddyn newydd.

Mae'r hen ddyn wedi ei ladd, ond mae olion yr hen natur yn parhau.

Cyhuddir Rhiannon o ladd ei phlentyn, ac felly mae'n rhaid iddi wneud penyd.

Terfysgoedd yn Toxteth a Peckham a phlismon yn cael ei ladd.

Ond er mai prif nod y gem yw dal y Brenin a'i ladd ni thâl hynny ddim.

Llwyddodd haid o ddewiniaid i greu'r argraff i ddyn da o deulu dedwydd gael ei ladd.

Ni chaniatê i Bryderi ladd y crefftwyr cenfigennus, 'y taeogion racco', oherwydd fe rybuddid Caswallon a'i wŷr ac fel canlyniad fe geid galanas ofer.

Daw'r awdl i ben yn sŵn y delyn na all na phellter nac amser ladd ei hudoledd.

Roedd ~edi esgeuluso i gorff cyhyd a gwelodd ei fod yn prysur ladd ei un.

Ymhen amser lledaena'r tyfiant i rannau eraill o'r corff, gan gynnwys yr ysgyfaint, gan ladd y claf yn y diwedd.

Gan fod llawer o ddynion yn gweithio yn y bonc roedd yn rhaid cad rhyw drefn gyda'r saethu, neu mi fuasai rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu bob tro; felly roedd amserau neilltuol i'r saethu a threfn rhywbeth tebyg i hyn: roedd dyn penodedig yn chwythu biwgl, ac ar y chwythiad cyntaf roedd pawb nad oedd a wnelo hwy â'r saethu yn mynd i le diogel i ymochel neu, i ddefnyddio term y chwarel, i wardio ffiars.

'Rŝan y plismon plant ichdi,' ysgyrnygodd Nel yn sefyll a'i thraed un bob ochor i ben PC Llong a lledr ei sgidiau sodlau uchel yn cochi'i glustiau, 'tydi Vatilan heb ladd neb yn naddo?'

Does dim llawer er pan oedd David Shayler yn sôn am gynllwynio i ladd.

Byddai'n fwy rhesymol a chyfiawn iddynt ladd y Saeson na lladd yr Almaenwyr, fel y gwnâi'r Gwyddelod.

Cytunais yn llwyr â H Charles Williams, Tŷ Croes, Ynys Môn a oedd yn methu â deall sut y mae gwiedydd of nadwy o dlawd yn gallu fforddio arfau i ladd ei gilydd.

Ym mrwydr Baddon fe ddywedir iddo ef ei hun ladd naw cant a thri ugain o filwyr y gelyn.

Onid oedd y digwyddiad yna mor wahanol, mor eithriadol i'r patrwm cyson ac unffurf o ladd fesul un, nes i Wil Dafis fynd i dybied bron fod Ap wedi neilltuo rhyw sylw anffafriol iddo ef yn benodol?

Airey Neave yn cael ei ladd gan yr IRA yn Nh^y'r Cyffredin.

I'r Cristion nid rhywbeth i'w ladd ond rhywbeth i'w brynu yw amser.

Doedd dim amdani ond ysmygu i ladd chwant bwyd.

Ac y mae cylchgrawn yr Institute of Medical Ethics wedi cyhoeddi canllawiau i helpu doctoriaid i gyfarfod dymuniad claf sy'n gofyn am gael ei ladd.

Croesodd y môr a glaniodd ar draethau gogledd y wlad, a thrwy iddo ladd cynifer o Wyddelod, cafodd rhan helaeth o ogledd-orllewin Cymru wared ar y gelyn.

Os ydi llenor i gael ei demtio i'w ladd ei hun, fe ddylai'r pwysau i wneud hynny godi o'r tu mewn iddo ac nid o'r tu allan.

Cafodd y milwr ei ladd a dau arall eu hanafu ger tref Iddewig yn Llain Gaza yn ystod ymosodiad ar doriad gwawr gan un o grwpiau Fatah sydd â chysylltiad ag Arlywydd y Palesteiniaid Yasser Arafat.

Felly y lleddir y wedd ddistrywiol i dadolaeth, a gwneir yr un peth i'r wedd gyffelyb mewn mamolaeth wrth ladd y Twrch, sy'n cynrychioli, dan gochl creadur gwrywaidd, yr hen fam o hwch a ildiodd fywyd i Culhwch, ond a oedd - fel y dywedodd James Joyce am ei famwlad - am ei fwyta'n fyw wedyn.

Roedd yn well gan Douglas gael ei ddal na'i ladd.

Roedd torf fawr arall yn Khan Younis ar Lain Gaza yn angladd protestiwr ifanc gafodd ei ladd gan filwyr Israel.

O'r braidd y bydd Eingl-Gymro a brofodd rywfaint o rinwedd y Saesneg fel cyfrwng barddoni byth yn gildio i'r demtasiwn hon i'w ladd ei hun.

Ym Mabinogi Manawydan mae crefftwyr eiddigeddus yn bwriadu lladd Manawydan a Phryderi ac yn y Vita Cadoci fe geir hanes adeiladydd o Wyddel y rhagorai ei waith ar waith y crefftwyr eraill a gyflogid gan Gadog gymaint nes iddynt ei ladd.

Ond yr ydym yn ymwybodol hefyd fod gwahaniaeth rhwng y naill ladd bwriadol a'r llall.

Cofiai Manon yn iawn am y noson pan ddechreuasai Gwyn ladd ar rai o gnhyrchwyr amlyca'r Gorfforaeth.

Deued pechaduriaid truain Yn finteioedd mawr yn nghyd, Doed ynysoedd pell y moroedd I gael gweld dy wynebpryd: Cloffion, deillion, gwywedigion, O bob enwau, o bob gradd, I Galfaria un prydnawngwaith, I weld yr Oen sydd wedi ei ladd.

Cafodd un o'r Palesteiniaid hefyd ei ladd.

Cyhuddo Frederick West o Gaerloyw o ladd wyth o ferched yn achos yr 'House of Horrors'.

Ond o leiaf gallai ei deulu honni ei fod wedi ei ladd on active service !!

Nid i ladd bob tro, wrth reswm.

Maent yn dy gyfarch yn gyfeillgar ac yn diolch i ti am ladd y baedd.

Maen nhw wedi ei ladd o rwan, a sbiwch, dyma chi'r corff.

Mae'n well i Nipon a gymerwyd yn garcharor gael ei ladd yn hytrach na dychwelyd i'w wlad." Ar ôl meddwl am foment mentrais innau ateb, "Bydd yna groeso i'r carcharorion Prydeinig i gyd pan ânt adref." Yr oedd yn amlwg oddi wrth ei wedd nad oedd yr ateb hwn yn ei blesio'n fawr.

Er iddi gael ei chyhuddo o ladd ei phlentyn, mae'n amlwg mai darostyngiad yw amcan y penyd.

Hefyd gwisgai ambell fochyn fwclis o'r fath pan oedd yn cael ei besgi ar gyfer ei ladd.

Tra oedd y disgyblion yn dyfalu beth i'w wneud, ac yn amau doethineb y bwriad i ddychwelyd ar y daith beryglus i Fethania peryglus am fod yr awdurdodau yn ceisio dal yr Iesu a'i ladd Tomos oedd yr un, parod i fynd gyda'r Iesu bob cam o'r daith, parod i wynebu'r canlyniadau.

Ac am smocio, 'waeth iti ladd rywun un blewyn yn y byd." Ail-oleuodd fy nghyfaill Williams ei bibell, a adawsai i ddiffodd yn nwyster ei deimladau.

Ar y dde ymhen hanner milltir saif fferm y Dderw lle'r ymosododd Plant Mat, yr ysbeilwyr adnabyddus o Dregaron, ar ryw ffarnwr ar ei ffordd i'r Sesiwn Fawr, a'i ladd.

Mae lluniau'n gallu dweud rhan o stori - sef bod yna ladd, dioddefaint, enillion a cholledion ond, hyd yn oed wedyn, nid dyna ddiwedd y gân.

Felly dyma Beelzebub yn anfon cythreuliaid trwy Gymru benbaladr i ladd ar enw da'r Cymry, i ddifenwi Ymneilltuaeth, a moesau'r merched, a'r heniaith a'i llenyddiaeth (tt.

Gwarchae Sidney Street yn nwyrain Llundain wedi i griw o anarchwyr dan arweiniad 'Peter the Panther' ladd tri phlismon.

Bu mwy o bwysau byth arnaf pan welodd Mam yn yr Herald fod Mr Paul, met y King Edwin, wedi ei ladd mewn damwain ar y llong.

Yr oedd Edwin (fel Trebor Lloyd Evans, Gerallt Jones, Iorwerth Jones a Rhys Nicholas) yn un na chaniataodd i'r teleffon ladd ei ddawn ysgrifennu llythyrau hir a diddorol.

Yn ddiweddarach daeth Steffan yn bartner ac yn ffrindiau agos gyda Hywel - cadwodd Steffan yn dawel am ymgais Hywel i ladd Nia a chadwodd Hywel yn dawel am nifer o ddigwyddiadau oedd yn awgrymu fod Steffan yn euog o dreisio Karen.

Timothy Evans, a grogwyd am ladd ei wraig a'i ferch pan oedd yn byw yn nhy'r llofrudd Reginald Christie, yn cael pardwn.

Ddydd Sadwrn pwysodd Awdurdod y Palesteiniaid ar yr Israeliaid i beidio dial wedi i filwr Israelaidd gael ei ladd gan blisman Palesteinaidd ddydd Sadwrn.

Nid oes un ddadl addysgol ddilys dros ladd ysgol mewn pentref ac yn sicr ddigon nid oes yr un ddadl gymdefflasol dros wneud hynny; y rhieni ac nid y biwrocratpell ddylai benderfynu tynged ysgol ein plant.

Ni allai holl bersawrau'r Dwyrain a holl gyffuriau a balmau melys y goedwig ladd yr aroglau a ddringai o bryd i'w gilydd dros ei min pan gusanent.

'Y Sul Gwaedlyd' yn St.Petersburg wedi i fliwyr y Czar ladd 500 o brotestwyr.

Gethin Cunnah, 19, o Brestatyn oedd y llanc gafodd ei ladd mewn damwain ffordd ym Mhrestatyn nos Wener.