Nid oedd gan y trwch ohonynt lawer o grap ar yr iaith Ladin; dim ond braidd ddigon i'w galluogi i fynd trwy'r gwasanaeth yn o drwsgl.
Y rheswm pennaf am hynny, y mae'n siŵr, yw cymhlethdod rhyfeddol y traddodiad testunol; at hynny ystyriai ysgolheigion Lladin, o gyfnod y Dadeni ymlaen, mai gweithiai clasurol a phatristig a haeddai eu sylw hwy, ac er bod i feirniadaeth destunol le blaenllaw ar raglen waith rhai o'r miniocaf eu meddwl ymhlith yr ysgolheigion hynny, bach iawn o le a roesant yn eu llafur i lenyddiath Ladin yr Oesoedd Canol.
Adnabyddiaeth lwyr o ddramâu Groeg yn unig oedd gan Aristotlys pan ymdriniodd â nodweddion drama drasig Efo 'ychydig o Ladin a llai o Roeg' treisiodd Shakespeare hwy i gyd bron.
Rhaid fod ganddynt rywfaint o Ladin i fedru adrodd y gwasanaethau ond tebyg mai digon diddysg oeddynt fel dosbarth.
Peth cyffredin iawn yn Lloegr, hyd yn oed ymysg gwŷr llengar, fu adweithio yn erbyn addysg glasurol, a diystyru llenyddiaeth Ladin a Groeg fel rhwybeth sych a phendantaidd na allai byth fod yn berthnasol i fywyd cyfoes.
Fel yn yr ysgol rad yn ôl Ieuan Glan Geirionydd, y tebyg yw mai 'Cerddi Homer a Virgil geinber' a bynciai Morgan ym mhorth plasty Gwedir dan ofal y caplan, neu o leiaf gerddi Virgil, gan ei bod yn bur sicr mai ar ramadeg a llenyddiaeth Ladin y byddai prif bwyslais yr addysg a geid yno - er ei bod yn debygol fod Saesneg ac egwyddorion y grefydd newydd Anglicanaidd yn cael eu dysgu hefyd.
Weithiau gwelir ymgais i ddynwared rhyw ffurf neu fesur a ddefnyddiwyd yn gyffredin mewn barddoniaeth Ladin neu Roeg.
Mae ymgais llenyddol felly nid yn unig yn peri i'r Groegiaid ymddangos yn fwy fel bodau dynol ac yn nes at fyd a diwylliant y darllenydd o Gymro, ond hefyd yn rhoi tras uchel ac urddasol, fel petai, i un o ffurfiau llenyddiaeth Gymraeg, trwy ddangos ei bod, os nad yn tarddu yn uniongyrchol o'r ffurf gyffelyb mewn Groeg neu Ladin, o leiaf yn ddigon tebyg iddi i haeddu parch cyfartal.
Ni ellid ymddiried mewn lleygwr, hyd yn oed pe medrai'r iaith Ladin - a pheth prin i'w ryfeddu oedd hynny, i fyfyrio arno a'i ddehongli drosto'i hun.
Yn hytrach na ffynnu i fod yn Awstralia America Ladin, roedd y wlad wedi dirywio cymaint nes ei bod yn cael ei hadnabod fel Albania'r Cyfandir.
Mae'r ysgrif Ladin a gerfiwyd arni wedi pylu'n enbyd ond gellir darllen y cofnod mai yn y fangre hon yr enillwyd Buddugoliaeth yr Halelwia yn ugeiniau'r bumed ganrif O.C Sut digwyddodd hynny?
Dyna pam y cafodd y geiriau hyn eu hysgrifennu yma, lle bu cymaint o blant yn llefain am eu rhieni, a lle heddiw y saif ysbyty mwyaf modern America Ladin, fel carreg fedd i'r gyfundrefn ofnadwy honno.
Ychydig yn ddiweddarach na phapur yr Athro W J Gruffydd fe ymddangosodd papur gan yr Athro Lewis Jones, 'The Literary Relationships of Dafydd ap Gwilym', lle pwysleisir drachefn ddylanwad y Trwbadwriaid ar Ddafydd ap Gwilym ond yma pwysleisir ef ochr yn ochr â dylanwad barddoniaeth Ladin Glasurol a barddoniaeth Ladin yr Ysgolheigion Crwydrad.