Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lafar

lafar

Seiliodd ei sylwadau ar wybodaeth a dderbyniodd naill ai ar lafar neu

Yr oedd hwn, cofiodd, yn enwog am ei ddireidi a'i ffraethineb, am ei gynganeddion cyflym ar lafar ac yn ei bapur, am ei areithiau ysgubol oddi ar lwyfannau eisteddfodol, am ei ysgrifau eofn, miniog, am ei wybodaeth o'r hen feirdd.

Model o iaith lafar ysgrifenedig.

Gall y safle eich helpu i wella'ch Cymraeg, dod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac ysgrifennu mewn Cymraeg clir, dealladwy.

Haeddai sylw ysgafn atebiad ysgafn bob amser, ac yr oedd rhywbeth cyffrous-beryglus mewn chwarae deufel lafar gyda gwrthwynebydd mor finiog a chwim ei feddwl â Hywel Vaughan.

Ni fedrodd yr Esgob Morgan ymwrthod â'r demtasiwn o adael i rai geiriau derfynu yn null iaith lafar ei gyfnod, dull sathredig a thafodieithol.

Cafodd lawer o wybodaeth oddi ar lafar gwlad wrth fynd heibio i hen bobl a chadw cofnodion o'r hyn a gofient ar bytiau o bapurau a hen amlenni llythyrau.

Daeth newid ar y drefn o gasglu wedi iddynt sylweddoli pa mor anfoddhaol oedd yr wybodaeth lafar, ac yn wir, pa mor amhosibl oedd teithio i bob twll a chornel.

bod disgwyl i holl staff y Cynulliad fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Un naw chwe tri oedd blwyddyn f'ordeinio'n weinidog yn Ebeneser Trawsfynydd, i ofalu am yr eglwys honno yn ogystal â Phenstryd a Jeriwsalem - Jeriw ar lafar gwlad.

Roedd yna geffyl yr un mor 'gall' yn gweithio yn Chwarel Foty a Bowydd - neu Chwarel Lord ar lafar.

Teimlent fod gwerin lafar, hyd yn oed yn yr eglwys, yn her i'r drefn gymdeithasol.

Rhaid i athrawon a/ neu adrannau ystyried mabwysiadu polisi pendant ynglyn a chywair eu hiaith lafar.

Astudiaeth o ffonoleg a morffoleg iaith lafar Brycheiniog.

Nid yw meistrolaeth y plentyn ifanc ar gonfensiynau'r iaith lafar yn tyfu am fod rhywrai yn ei gymuned yn penderfynu rhoi hyfforddiant penodol iddo ar ddefnydd priodol o ansoddeiriau neu ffurfiau amherffaith y ferf.

Mae gwir angen am fynd ati ar unwaith i geisio gwella safonau'r iaith lafar.

Os ydym am sicrhau fod pobl ifanc yn gwbl rugl yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mae'n amlwg fod yn rhaid darparu addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog iddynt.

Bydd disgyblion yn darllen amrediad eang o destunau llenyddol, anllenyddol a thestunau'r cyfryngau; gallant ddarllen yn gywir, yn rhwydd a chyda mynegiant priodol; bydd ganddynt ddealltwriaeth eglur o'r hyn y maent yn ei ddarllen ac yn ei weld, a gallant ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig i destunau o gymhlethdod cynyddol.

Cafodd ein pobl ddigon o rybuddion ar lafar ers blynyddoedd beth yw'r pris y mae'n rhaid ei dalu am gefnu ar Dduw a'i wirionedd.

Wrth gwrs dydan ni ddim wedi rhoi'r gorau ar lafar i'r enw Sir Fon, yn naddo?

Systemau Dwyieithog - Dulliau o drefnu'r dysgu a chywair iaith lafar yn y sefyllfa ddwyieithog.

Ceir llawer o draddodiadau ar lafar gwlad a dywed un ohonynt i eglwys gael ei hadeiladu yn y chweched ganrif o barch ac anrhydedd i Dewi Sant.

O ganlyniad, caiff y plant fwy o gyfle i'w mynegi ei hunan ar lafar ac ar bapur mewn amrywiaeth o foddau, gan gynnig deunydd crai i'w ddadansoddi a'i gywiro ......

Gwedd arall ar y drwg hwn yn y dyddiau hyn yw difaterwch gresynus llawer o Gymry Cymraeg ynglyn â safonau'r iaith lafar.

Dylai dyfarniadau ar ansawdd y dysgu mewn Cymraeg/Saesneg roi ystyriaeth i ymateb y disgyblion i dasgau o ran eu diddordeb, eu cyfranogiad a'u mwynhad; cyflymder eu gwaith; i ba raddau y maent yn amlygu cynnydd wrth ddefnyddio'r iaith lafar ac ysgrifenedig, ac yn datblygu annibyniaeth, llithrigrwydd ymadrodd a chywirdeb yn briodol i'w hoedran a chyfnod eu datblygiad.

Nid wyf wedi darllen nofel Saesneg o bwys lle nad yw'r awdur, ar wahân i'w ddeialog, hwyrach, sy'n bwriadol efelychu blerwch yr iaith lafar, yn dra manwl gywir.

mewn sefyllfa lafar.

Mae ffactorau eraill megis faint o'r iaith lafar a ddefnyddir gan yr athrawon eu hunain a'r cywair llafar a ddefnyddir yn ymwneud ag arddulliau dysgu.

Polisi i fudiad yw ef a'r mudiad hwnnw yn yr ardaloedd y mae'r Gymraeg yn iaith lafar feunyddiol ynddynt.

Mae hybu darllen yn rhan hanfodol o unrhyw strategaeth i hybu'r iaith ac nid oes unrhyw amheuaeth o werth darllen fel ffordd o feithrin hyder mewn pobl i ddefnyddio'r iaith ar bapur yn ogystal ag ar lafar.

I ddynion a'u gwelai eu hunain yn oœer bywiol yn llaw'r Ysbryd Glân, neges i'w chyflwyno'n uniongyrchol ar lafar i'w pobl gyda holl nerth eu cyneddfau meddwl a chorff ydoedd neges eu pregethau.

Roedd y gymeriadaeth wedi ei hangori mewn hen chwarelwr cwbl gredadwy (o Ddeiniolen, mae'n siwr!) Roedd rhythmau iaith lafar John Ogwen yn gweddu yn gwbl fanwl i rythmau cryf y sgrifennu a'i gymeriad yn rhan o'r gymdeithas a ddisgrifiwyd mor hoffus gan Gwenlyn ei hun yn y rhaglen fywgraffyddol a gyflwynodd y gyfres.

Hefyd mae'r swyddi lle mae angen cyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn Gymraeg yn fwy lluosog ac amrywiol nag erioed o'r blaen.

Daliaf i gofio'n arbennig am yr ymadrodd a ddefnyddiwyd droeon ar lafar gwlad i ddisgrifio'r hen sustem greulon, galon-galed a drefnwyd o'r Kremlin: 'Dyw Moscow byth yn wylo.'

Roedd yr iaith lafar yn prysur droi yn rhywbeth na fuasai yn y canrifoedd cynt, sef arwydd o wahaniaeth dosbarth, ac eisoes yr oedd yna raniad rhwng De a Gogledd yn Lloegr.

Gyda'r enw hwn y cyfeirid at yr arglwyddes Senena ar lafar gwlad.

cytunwyd hefyd fod y das lafar yn bwysig i gadarnhau statws yr iaith gymraeg yn y cwricwlwm ac i gadarnhau pwysigrwydd gwaith llafar er mwyn cyflawni amcanion y cwricwlwm cenedlaethol cymraeg.

Diolch i bawb a ddaeth i'r capel a diolch hefyd i'r rhai hynny a gyfrannodd at Gronfa Llais Ogwan Ar Lafar.

Y mae'n iawn ymdrechu tra galler dros gynnal yr iaith Gymraeg yn iaith lafar ac yn iaith lên oblegid mai felly'n unig yn y darn daear hwn y gellir parchu'r ddynoliaeth a fagwyd arno ac y sydd eto'n ei arddel.