Y noson o dan sylw, bu Miss Williams yn hir syllu drwy'r twll yn y blacowt yn ffenestr y llofft ffrynt ar lampau bus Ifan Paraffîn yn dawnsio'u ffordd yn feddw ar hyd Pen Cilan cyn stopio'n stond, ond heb wybod i sicrwydd mai bus oedd yno.
Yr oedd y carchar yn y nos fel claddfa, pob carcharor yn ei gell fel pe byddai mewn arch ar ei sefyll ac yn unicach na chorff yn ei amdo, a'r goleuadau bychain y tu allan i'r celloedd fel y lampau bychain hynny ar feddau mynwentydd Catholig y cyfandir.
Am bump o'r gloch fe gynheuwyd y lampau er mwyn goleuo cyfraniad byw gan y gohebydd i brif raglen newyddion yr Almaen.
Mae'n werth gofyn i'r trydanwr sicrhau fod lampau niwl y car yn datgysylltu wrth i'r plwg fynd i mewn, neu fel arall fe all yr adlewyrchiad ar du blaen y garafan fod yn ddiflas pe baech angen defnyddio lamp niwl y garafan.
Deffrowyd pawb yn y tŷ gan y sŵn a wnai Gwyll, a phan ddaeth y gweision yno gyda'u lampau gwelsant gorff Lowri Cadwaladr eu meistress yn gorwedd yn farw ar y gro o flaen y drws.
Mae o'n perthyn yn agos i gi sy'n codi'i goes ar geir, ar lampau ac ar goed er mwyn dangos mai ei batch bach o ydi'r tir hwnnw.
Balch oedd o gael y defaid yn ddiogel a throi i mewn gyda'r nos at y tân a golau cynnes nwy calor a lampau olew.
A chyn belled na fydd awyrennau'r gelyn felltith o gwmpas, mae rhyddid iddyn nhw gario lampau fel yn yr hen ddyddiau.
Trywanwyd ef gan bob clic ar y cloc, ac wedyn yr oedd mewn artaith, y naill lygad ar y cloc a'r llall ar y lampau traffig.
Pan oedd y darllediad ar ben, fe ddiffoddwyd y lampau a'u llwytho i gefn y lori.