Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

landdewi

landdewi

Yr oedd tair ar ddeg o eglwysi prebendari yn perthyn i Landdewi Brefi: Llangybi, Llanbadarn Trefeglwys, Llanfihangel Ystrad, Carrog, Llannerch Aeron, Llanwenog, Blaen-porth, Betws, Llanbadarn Odwyn ger Llwynpiod, Llanboidy, Tre-lech a'r Betws, Llanarth a Thregaron.

Braint oedd mynd o Dyddewi, cartref nawddsant Cymru, i Landdewi, lle yn ôl traddodiad y cyflawnodd Dewi Sant lawer o wyrthiau yn y chweched ganrif, i gyhoeddi i gynulleidfa o dros wyth gant o bobl fod yr Arglwydd Iesu Grist yn dal i iacha/ u trwy rym ei Eglwys a hynny am ei fod Ef yn ddigyfnewid yn Ei gariad, - "yr un ddoe, heddiw ac yn dragywydd." Ar ôl y cyfarfod dywedodd amryw fod y syniad o'r lesu yn iacha/ u yn yr ugeinfed ganrif yn un hollol newydd iddynt.