Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lapio

lapio

Y nodyn cynta' a wnes i yn fy llyfr oedd bod ambell un o'r cyrff main wedi'u lapio mewn sach fwyd a gyrhaeddodd yn rhy hwyr.

Byddai fy ewythr Wncwl Jack yn rhoddi ffyrling wedi ei lapio mewn menyn i'w gi pan y byddai llyngyr amo.

Rwyt ti'n mynd i ffermio!" Rhuthrodd ato a lapio'i breichiau am ei wddf.

Mewn cystadleuaeth wan ni chafodd Isaled, Cynddylan a Hawen ond pedair pryddest i'w beirniadu a phenderfynwyd mai Glanffrwd oedd wedi rhagori ar lapio'r hen gysuron o gwmpas yr iaith.

Yno, yn gorwedd ar silff uchaf yr hen wardrob yr oedd parsel wedi'i lapio mewn papur.

Ymladdodd y ddwy ddraig, yfed y medd, meddwi a chael eu lapio yn y sidan.

Yn y gaeaf, os oedd yr oerni'n fawr, byddai yn lapio rug am ei chanol ac yn mynd i'r capel ar hyd y stryd gefn wrth lan yr afon.

Ac yna, y mae Wiliam yn rhoi ei gôt uchaf amdano, a'i het galed am ei ben, ac yn lapio crafat mawr ddwy-waith am ei wddf; yna yn cymryd gafael yn y fasged a orffwysai fel tynged ar ben y bwrdd mawr er y noson cynt, yr un fasged ag a ddawnsiai wrth ochr y frêc bedair blynedd cyn hynny, ac a welwyd yn cychwyn Owen i'r Coleg.

Does dim rhaid ichi ychwaith boeni am na phapur lapio na selotêp na stamp na dosbarthu gan y bydd popeth yn cael ei lapio ichi ai gludo i ben ei daith.

Dyma stori sydd hefyd wedi ei lapio mewn rhyfeddod.

Llai na chant o'r gynulleidfa wreiddiol sydd ar ôl erbyn hyn wedi eu lapio'n dyn mewn cotiau trwchus rhag oerni unarddeg y nos.

I gael blas da dylid eu sgwrio'n dda, eu lapio mewn foil cegin a'u crasu am oddeutu dwy awr.

Dim pigau pin yn sownd yn y carped tan fis Mai; dim rhochian blynyddol Modryb Matilda ar ôl joch o port; dim crensian papur lapio'n slei bach i deimlo'r anrheg; dim anghofio codi am chwech y bore i roi'r twrci yn y popty; dim Ryan yn canu "Ai hyn yw'r Nadolig pwy a žyr?" ar bob yn ail raglen radio; dim chwilota mewn hen gist am goron Caspar neu am ddoli go lân i orwedd yn y preseb; dim 'Dolig!

Mi deimlais y wasgod yn tynnu yn fy nghefn a dyma hi i ffwrdd gan lapio'i hun o gwmpas y sgwarnog."

Doedd yna ddim son yr adeg honno am lusgo pobl wedi eu lapio mewn tystysgrifau geni o bendraw'r byd.

Yna, wrth i Gethin ei lapio'i hun amdano, crawciodd yn boenus, 'He, gofala lle wyt ti'n gosod y blydi sugnydd, wnei di!' 'Ddrwg g-gen i,' sibrydodd y gelen a'i enau wedi'u cloi'n dynn.

Yn yr ail act mwynheais berfformiadau Alun Elidir (Jo) a Judith Humphreys (Mari) yn arw, yn enwedig yn y rhan lle roedd Jo am adael ond yn aros i gynorthwyo Mari i lapio cynfas, gyda'r ddau yn dod yn nes at ei gilydd gyda phob plygiad a'u hymddygiad yn mynd yn fwy awgrymog drwy'r amser.

Yr unig beth fydd eisiau i ti ei wneud wedyn fydd lapio'r ddwy yn y sidan a'u claddu nhw mewn lle diogel.

Rydw i wedi mynd â fo adref ac wedi ei lapio fo yn y blanced oedd ganddo fo gael ei gladdu wrth ochr y gwely riwbob lle byddai o'n hoffi gorwedd yn yr haul o dan gysgod y dail.

Diferai dannedd Rhys wrth iddo glywed yr oglau'n treiddio drwy'r papur lapio.

Er mwyn trafaelu adref, nid oeddynt am gario'r corff yng nghefn y car gyda'r plant, ond roedd ganddynt babell, ac felly dyma benderfynu lapio'r hen fenyw yn y babell a'i chlymu ar y rack ar do'r car am y siwrnai adref.