(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Tudweiliog yn gofyn paham y rhoi'r amod person lleol ar y dyfarniadau mewn rhai achosion ac nid mewn eraill sydd yn ymwneud â safleoedd o fewn ychydig lathenni i'w gilydd.
Ar flaen y ciw, ychydig lathenni o'r ffin, roedd teulu'n cysgodi wrth ochr lorri.
Er nad oedd y lle ond ychydig gannoedd o lathenni allan o'i ffordd, roedd y gyrrwr yn dymuno mwy o arian gennym.
Roedd y cigydd yn llawn sylweddoli fod yna bobl yn marw lathenni o sŵn y farchnad, yn gorwedd yn y gwteri mochaidd, a doedd e ddim am gael ei weld yn eu hanwybyddu.
Hwnnw'n rhedeg am ugain llath, cyn taflu'r bêl o'r tu mewn i'm dwylo i, a finne o fewn ychydig lathenni i'r llinell yn llwyddo i groesi, dan gario dau o olwyr ar 'y nghefn.
Galwai yma yn aml iawn a chan fod Edward yn defnyddio'r baco main arferai weiddi lathenni cyn dod i'r golwg, "Ydi'r hen faw hen faco 'na gen ti?" Llanwai ei getyn ar unwaith a châi flychiad o fatsys i geisio ei thanio gan ddefnyddio iaith nas defnyddid yn yr un Seiat ar ôl pob methiant.